Home
Categories
EXPLORE
True Crime
Comedy
Business
Society & Culture
Health & Fitness
Sports
Technology
About Us
Contact Us
Copyright
© 2024 PodJoint
00:00 / 00:00
Podjoint Logo
US
Sign in

or

Don't have an account?
Sign up
Forgot password
https://is1-ssl.mzstatic.com/image/thumb/Podcasts221/v4/a3/e3/1a/a3e31a7b-1ca2-a667-908a-c9c4f153b0bc/mza_16166293310565599532.jpg/600x600bb.jpg
Sgwrs?
myf.cymru
21 episodes
3 months ago
Ym mhodlediad Sgwrs? mae Trystan Ellis-Morris yn sgyrsio gyda chwnselwyr, myfyrwyr ac ambell wyneb adnabyddus a dylanwadol am bynciau amrywiol yn ymwneud gyda lles a iechyd meddwl.

Am fwy o wybodaeth ewch i myf.cymru

Ariennir Sgwrs? gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Show more...
Mental Health
Education,
Self-Improvement,
Health & Fitness
RSS
All content for Sgwrs? is the property of myf.cymru and is served directly from their servers with no modification, redirects, or rehosting. The podcast is not affiliated with or endorsed by Podjoint in any way.
Ym mhodlediad Sgwrs? mae Trystan Ellis-Morris yn sgyrsio gyda chwnselwyr, myfyrwyr ac ambell wyneb adnabyddus a dylanwadol am bynciau amrywiol yn ymwneud gyda lles a iechyd meddwl.

Am fwy o wybodaeth ewch i myf.cymru

Ariennir Sgwrs? gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Show more...
Mental Health
Education,
Self-Improvement,
Health & Fitness
Episodes (20/21)
Sgwrs?
Syndrom y Ffugiwr (Imposter Syndrome)
Mae llawer ohonom yn adnabod y teimlad – y pryder ein bod ni ddim yn ddigon da, y dychymyg ein bod ar fin cael ein darganfod fel ‘ffugiwr’. Ond beth yn union yw syndrom y ffugiwr (imposter syndrome), a pham mae’n effeithio cymaint ar ein hyder a’n hunan-barch?

Yn y bennod hon o Sgwrs?, mae Lois, myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, yr actor a chyflwynydd Luke Davies, ac Endaf Evans, cwnselwr ym Mhrifysgol Bangor, yn trafod y ffordd mae imposter syndrome yn effeithio ar fyfyrwyr, perfformwyr, a phawb sy’n teimlo’r pwysau i fod yn ‘berffaith’.

Ydyn ni’n rhoi gormod o bwyslais ar berffeithrwydd? Sut gall cyfryngau cymdeithasol waethygu’r teimlad ein bod ni byth yn gwneud digon? A beth allwn ni ei wneud i feithrin hyder a chael gwared â’r llais bach negyddol sy’n dweud nad ydyn ni’n haeddu ein llwyddiannau?

Dyma trafodaeth agored ac ysbrydoledig ar sut i fagu hyder, derbyn ein llwyddiannau, a chreu perthynas iach gyda’n disgwyliadau ein hunain.
Show more...
7 months ago
31 minutes

Sgwrs?
Meddyliau Ymwthiol
Meddyliwch am y foment honno pan mae meddwl annisgwyl yn taro eich meddwl - rhywbeth rhyfedd, brawychus neu hyd yn oed anghyfforddus. Mae gan bawb feddyliau ymwthiol o bryd i’w gilydd, ond beth sy’n digwydd pan fyddan nhw’n parhau i ddychwelyd ac yn dechrau effeithio ar eich bywyd bob dydd?

Yn y bennod hon o Sgwrs?, rydym yn archwilio’r byd cymhleth o feddyliau ymwthiol. Mae Grace, myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, y cerddor a chyflwynydd Welsh Whisperer, ac Endaf Evans, cwnselydd i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor, yn rhannu eu profiadau a’u harbenigedd ar sut mae’r meddyliau hyn yn effeithio ar iechyd meddwl ac ansawdd bywyd.

Pam mae meddyliau ymwthiol yn digwydd? Sut gallan nhw gysylltu â gorbryder ac iselder? A pha effaith mae stigma’n ei gael ar bobl sy’n ei chael hi’n anodd trafod y pwnc? Yn fwyaf pwysig – sut gallwn ni reoli’r meddyliau hyn a dod o hyd i strategaethau i’w ddelio â nhw? Ffeindiwch allan yn y bennod hon, ac ymunwch yn y Sgwrs.
Show more...
7 months ago
41 minutes

Sgwrs?
Hunan Ofal a ‘Burnout’
Mae bywyd prifysgol a gwaith yn gallu bod yn heriol, ac mae’n hawdd anwybyddu ein lles personol wrth i bwysau gynyddu. Ond beth yn union yw burnout, sut gallwn ni ei adnabod, a pham mae hunanofal mor bwysig? 

Yn y bennod hon o Sgwrs?, mae Hedd, myfyriwr ym Mhrifysgol Wrecsam, y crewr cynnwys Llio Angharad, ac Endaf Evans, cwnselwr ym Mhrifysgol Bangor, yn trafod eu profiadau a’u safbwyntiau ar y pwnc.

Beth yw’r camau syml allwn ni eu cymryd i ofalu am ein hunain? Sut gallwn ni oresgyn y rhwystrau sy’n ein hatal rhag blaenoriaethu hunan ofal? A sut allwn ni symud oddi wrth yr syniad bod hun anofal yn foethusrwydd, yn hytrach na rhywbeth hanfodol i’n hiechyd meddwl?
Show more...
7 months ago
38 minutes

Sgwrs?
Delio Gyda Newid
Gall newid fod yn heriol ac yn llawn ansicrwydd, ond gall hefyd ddod â chyfleoedd newydd a phrofiadau gwerthfawr. Yn y bennod hon o Sgwrs?, rydym yn trafod sut i ymdopi â newid mewn ffyrdd iach ac adeiladol, gan gynnwys symud i'r brifysgol, addasu i sefyllfaoedd annisgwyl, a darganfod cryfder personol drwy gyfnodau o ansicrwydd.

Mae Carys, myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, yr actores Leah Gaffey a’r cwnselydd Karen Jones yn rhannu eu profiadau a’u hawgrymiadau ar greu rhwydweithiau cefnogaeth, goresgyn yr ofn sy’n gallu dod gyda newid, a dysgu sut i ail-fframio heriau fel cyfleoedd i dyfu. Cawn glywed straeon gonest am y ffordd mae newid wedi effeithio ar eu bywydau, a’r dulliau maen nhw wedi eu defnyddio i addasu, ymdopi, a hyd yn oed ffynnu o ganlyniad.
Show more...
7 months ago
36 minutes

Sgwrs?
Procrastinadu
Ydyn ni i gyd yn euog o brocrastinadu? Mae’n hawdd dweud “Gwna i o’n nes ymlaen,” ond cyn i chi sylweddoli, mae oriau wedi mynd heibio ac mae'r gwaith heb ei wneud.

Yn y bennod hon o Sgwrs?, rydym yn trafod pam rydym ni’n gohirio tasgau, yr effaith mae hyn yn ei gael ar ein hiechyd meddwl, a sut i ddod o hyd i gydbwysedd rhwng gorffwys bwriadol a diogi. Ymunwch ag Elliw, myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, y cyflwynydd a’r dylanwadwr Molly Palmer, ac y cwnselydd Sara Childs wrth iddyn nhw rannu eu profiadau a’u hawgrymiadau i helpu torri’r cylch.

Os ydych chi’n cael eich hun yn osgoi gwaith, yn sgrolio di-ben-draw neu’n teimlo’n euog am beidio â gwneud digon, mae’r bennod hon yn cynnig syniadau ymarferol i chi ddod yn fwy cynhyrchiol heb leihau'ch lles. Efallai mai'r cam cyntaf yw gwrando!
Show more...
7 months ago
44 minutes

Sgwrs?
Perthnasau
Y gwir yw bod perthnasau da - gyda theulu, ffrindiau, cariadon, ac eraill - yn gallu gwneud ni’n hapus…ond yn yr un modd, pan mae pethau’n mynd o le mewn perthynas, mae’n gallu cael effaith negyddol iawn ar ein hapusrwydd a’n hiechyd meddwl. Mae cyfnod prifysgol yn gyfnod hynod yn ein bywydau, yn adeg lle mae perthnasau gyda theulu a ffrindiau, hen a newydd, yn newid yn gyson. Yn y bennod hon mae Liam Edwards, sy’n astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a’r berfformwraig ac actores, Carys Eleri, yn ymuno gyda Trystan a’r cwnselydd Endaf Evans o Brifysgol Bangor i drafod y pwnc o berthnasau.

Pwyntiau i’w nodi

Pam cael pennod yn trafod perthnasau? (4:02)

Liam yn trafod magwraeth, tyfu fyny a ffrindiau ac yna’r profiad o fynd i brifysgol (5:45)

Carys Eleri yn trafod ei magwraeth a mynd i brifysgol (14:05)

Endaf yn sôn am y math o bethau mae myfyrwyr yn dod i drafod gyda’r cwnselwyr (21:16)

Liam yn trafod ei berthynas gyda’i deulu a dod allan ac yna Carys yn siarad am ei theulu (24:45)

Liam a Carys yn siarad am ddefnyddio eu profiadau yn eu gwaith creadigol a cherddoriaeth (33:57)

Sylwadau cloi (39:02)
Show more...
1 year ago
43 minutes

Sgwrs?
Dynion ac Iechyd Meddwl
Yn y bennod hon, mae’r ffocws ar ddynion ifanc a’u hiechyd meddwl a lles emosiynol. Mae cael dynion i siarad a chydnabod problemau yn parhau i fod yn her - er bod arwyddion bod hyn yn newid, fel y clywn ni. Yn siarad am y pwnc gyda Trystan mae’r myfyriwr Osian Iorwerth o Ynys Môn, sy’n astudio ym Mhrifysgol Harper Adams, yr actor Gethin Bickerton a’r cwnselydd o Brifysgol Bangor, Endaf Evans. Mae’n sgwrs bwysig sy’n gweld nhw’n trafod iselder, hunan laddiad, tyfu fyny, rhywioldeb, dod i dderbyn dy hun, cefn gwlad ac amaethyddiaeth a phwysigrwydd siarad a chael cymorth.

Rhybudd cynnwys: hunan laddiad

Pwyntiau i’w nodi
Pam cael pennod wedi’i neilltuo i ddynion? (3:00)
Profiad Osian yn y brifysgol (4:40)
Stori Gethin a’i iechyd meddwl yn ei arddegau, rhywioldeb, cefn gwlad (9:10)
Endaf yn siarad am fyfyrwyr o gefndir cefn gwlad yn benodol (12:10)
Gethin yn siarad am waith y DPJ Foundation (25:50)
Cyngor i unrhyw un sy’n gwrando (31:10)
Show more...
2 years ago
35 minutes

Sgwrs?
Alcohol
“Ti’n ca’l shaclad heno?” “OMB, o ti mor feddw neithwr!” “Un fach arall?”

Mae yfed alcohol yn rhan o ddiwylliant cymdeithasu’r wlad hon. Ac mae’n ystrydeb bron i feddwl am fywyd myfyriwr - joio gormod ac yfed ar noson allan. Mae’r mwyafrif ohonom yn gweld ein perthynas gydag alcohol yn rhywbeth weddol ysgafn, ac er bod pawb yn gwybod eu bod nhw’n gor-neud hi ar adegau, does dim angen poeni, ychydig o hwyl yw e wedi’r cyfan - ie? Yn y bennod hon mae’r actores Heledd Roberts a’r actores, cyflwynydd ac awdur Ffion Dafis yn ymuno gyda Trystan a’r cwnselydd Sara Childs i sgwrsio am eu perthynas cymhleth nhw gydag alcohol. Mae’n sgwrs onest gan adlewyrchu ar gymdeithasu tra yn y brifysgol a’u perthynas efo alcohol heddiw - gwneud pethau dwl dan ddylanwad, am agweddau cymdeithas, am gydnabod fod problem. Am ddweud ‘Na’, ac am fod yn hapusach person o beidio yfed.

Cyflwyniadau (2:00)
Agweddau cymdeithas tuag at alcohol (8:30)
Stori Heledd a’i pherthynas gydag yfed alcohol (11:55)
Sara yn siarad am ei gwaith hi fel cwnselydd gyda myfyrwyr a phroblemau ymwneud ag alcohol (14:40)
Alcohol yn gyffur a stigma’r label ‘alcoholig’ (19:22)
Heledd yn siarad am benderfynu rhoi stop ar yfed a Ffion wedyn yn siarad am wneud cyfnodau sych (28:01)
Ffion yn annog pawb i fod yn ymwybodol o’u patrymau yfed (34:27)
Heledd yn trafod defnyddio alcohol fel masg a Ffion wedyn yn siarad am licio hi ei hun heb alcohol (37:49)
Show more...
2 years ago
44 minutes

Sgwrs?
Hunan-Werth
Mae pob hunan ohonon ni’n cyflwyno ‘ffrynt’ i’r byd weithiau. Rydym ni gyd yn cael diwrnodau lle byddai’n well gennym guddio o’r byd, ond ni’n gorfodi’n hunain i wisgo a gwenu, fel pe bai popeth yn iawn. Y gwirionedd yw nad oes neb wir yn gwybod fel mae rhywun arall yn teimlo ar y tu fewn. A thra ein bod ni’n gallu gweld a gwerthfawrogi eu gwerth, efallai bod nhw’n teimlo’n wahanol iawn amdanyn nhw’u hunain. Yn y bennod hon trafodir hunan-werth a’r cyfnodau tywyll ac anodd sy’n gallu effeithio ar bawb. Yn gwmni i Trystan mae’r gyflwynwraig teledu Mirain Iwerydd, sydd newydd orffen astudio ei gradd ym Mhrifysgol Aberystwyth; y newyddiadurwraig, cyflwynydd a chomediwraig, Lorna Prichard, a’r cwnselydd, Gareth Davies.

Rhybudd cynnwys: hunan-niweidio

Cyflwyniadau (1:15)
Mirain, hunan-werth a iechyd meddwl yn ei harddegau (6:40)
Stori Lorna a’i phrofiad hi o hunan-werth a iechyd meddwl (11:55)
Gareth yn trafod fel mae diffyg hunan-werth yn gallu effeithio ar bawb (22:40)
Pethe positif yn gallu dod o gyfnodau anodd (30:40)
Effaith y cyfryngau cymdeithasol (32:40)
Cyngor i rai sy’n gwrando (38:20)
Show more...
2 years ago
43 minutes

Sgwrs?
Galar
Mae cylch bywyd yn un sy’n cynnwys marwolaeth ac ar ryw bwynt, mae pob un ohonom yn gorfod wynebu galar a cholled. Mae’n medru bod yn anrhagweladwy, yn annisgwyl, yn anghyfleus, yn unig, yn gymhleth, yn bersonol, yn dywyll, yn boenus. Yn y bennod hon, trafodir colled a’r effaith mae’r broses o alaru yn gallu cael ar ein bywydau. Y fyfyrwraig Nanw Maelor, a’r cerddor Al Lewis sy’n rhannu eu profiadau gyda Trystan a’r cwnselydd Sara Childs.

Stori Nanw o golli ei thaid (5:11)
Stori Al o golli ei dad (10:25)
Sara yn siarad am rôl cwnsela mewn galar (16:37)
Al yn trafod colli rhiant yn ifanc (21:50)
Trafod galar a gwybod beth i’w ddweud wrth rywun ar ôl colled (24:22)
Al yn sôn am y ffaith bod galar yn mynd a dod a bod cydnabod galar yn bwysig (28:40)
Cefnogaeth academiadd sydd ar gael i fyfyrwyr sy’n galaru (31:40)
Nanw ac Al yn trafod defnyddio celf a cherddoriaeth i helpu (32:20)
Show more...
2 years ago
41 minutes

Sgwrs?
Arian a Chostau Byw
Mae arian yn rhywbeth sydd wedi peri gofid i’r mwyafrif ohonon ni ar ryw bwynt yn ein bywydau. Efallai ein bod ni wedi gorwario ar gerdyn credyd neu ar noson allan, yn poeni am y gost o fod yn fyfyriwr, yn gofidio am dalu rhent, neu’n becso am faint i ni’n ennill mewn swydd, ac wrth gwrs, y twf diweddar mewn costau byw - ac mae’r cyfan yn gallu effeithio ar ein lles a iechyd meddwl. Mae’n wir i ddweud hefyd bod salwch meddwl yn gallu arwain at broblemau arian mewn pob math o ffyrdd - cylch dieflig yn aml. Ac eto, mae problemau a gofidiau ariannol yn rhywbeth mae llawer o bobol yn cadw’n gudd. Yn y bennod hon mae’r fyfyrwraig Elin Bartlett, yr hyfforddwr a chyn-fancwr, Andrew Tamplin, a’r cwnselydd Daisy Evans yn cael sgwrs onest, agored a ffraeth am arian.

Pwyntiau nodi yn y bennod

Elin yn cyflwyno ei hun (1:50)
Stori Andrew (2:20)
Tabŵ siarad am arian (4:56)
Prifysgol yn fraint - ond un sy’n costio - a chostau astudio meddygaeth yng Nghymru (6:18)
Andrew yn siarad am ei breakdown (15:28)
Daisy yn siarad am y gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr ac Andrew ac Elin yn siarad am gynllunio a chyllidebu (22:42)
Elin yn siarad am y gymharu’n hunain ag eraill a’r pwysau mae pobol yn teimlo (27:19)
Y cylch o iechyd meddwl a gwario (30:16)
Faint mae myfyrwyr yn trafod arian yn agored (32:55)
Daisy yn siarad am gynllunio a’r apiau sydd ar gael i helpu gyda hynny (37:02)
Show more...
2 years ago
45 minutes

Sgwrs?
Gwneud y Pethau Bychain
Mae hunanofal yn rhywbeth sy’n hanfodol bwysig i ni gyd. A thra bod iechyd meddwl yn gallu bod yn beth cymhleth a dyrys heb unrhyw atebion hawdd, mae yna bethau gallwn ni wneud i helpu cadw’n meddyliau yn iach, ac mae gwneud y pethau bychain hynny yn medru gwneud byd o wahaniaeth. Yn y bennod hon mae Trystan Ellis-Morris yn trafod rhai o’r pethau hyn - o gelf, i redeg, i nofio gwyllt - yng nghwmni’r cwnselydd celf, Gwawr Roberts, y myfyrwyr Katie Phillips a Cara Walters, y cyflwynydd a hyfforddwr personol Connagh Howard, a’r hyfforddwraig nofio, Caris Hedd Bowen. Mae’n sgwrs ysbrydoledig fydd yn codi chwant arnoch redeg tua’r môr (a’i ddarlunio wedyn!).


Cara yn siarad am ddechrau rhedeg (5:31)
Katie yn siarad am redeg a dechrau nofio gwyllt (9:56)
Stori Caris a sut ddechreuodd hi nofio (12:02)
Connagh a’i berthynas gyda ffitrwydd - dechrau gyda dyspracsia yn blentyn (18:33)
Gwawr yn siarad am ei gwaith fel therapydd celf (22:44)
Mae’n iawn i beidio bod yn wych yn rhywbeth - ond dal ei fwynhau (33:41)
Show more...
2 years ago
44 minutes

Sgwrs?
Anhwylder Personoliaeth ac Anhwylder Deubegwn
Mae salwch meddwl yn rhywbeth nad yw pobol yn aml yn gwybod sut i siarad amdano. Mae anwybodaeth, camddealltwriaeth a stigma hefyd yn gallu bodoli ynghylch â chyflyrau sy’n ymwneud â’r meddwl. Yn y bennod hon mae’r fyfyrwraig Tegwen Parry a’r actores a dramodydd Ceri Ashe yn ymuno gyda Trystan a’r cwnselydd Endaf Evans i drafod eu profiadau nhw o fyw gydag anhwylder personoliaeth ac anhwylder deubegwn. Mae’n sgwrs onest, agored, pwerus ac ysbrydoledig yn un.

Rhybudd cynnwys: anhwylder bwyta

Beth yw anhwylder personoliaeth a stori Tegwen (5:31)
Beth yw anhwylder deubegwn a stori Ceri, gan gynnwys bod tri math ohono (7:52)
Tegwen yn trafod anhwylder bwyta (19:07)
Ceri yn trafod datblygu drama am anhwylder deubegwn (22:35)
Endaf yn siarad am y modd gall cwnselydd helpu (28:42)
Strategaethau ymdopi Tegwen (36:10)
Beth mae diagnosis wedi meddwl i Ceri, ymdopi a bod yn agored (36:59)
Show more...
2 years ago
46 minutes

Sgwrs?
Cael Cymorth
Mae gofyn am help yn rhywbeth mae llawer ohonom yn gweld yn anodd i'w wneud, ym mhob agwedd o fywyd, ond yn arbennig efallai gyda’n hiechyd meddwl. Y cwnselydd Myfanwy Williams, y myfyrwyr Daisy a Hywel - sydd hefyd yn rhan o’r tîm sy’n rhedeg gwefan meddwl.org - sy’n trafod y pwysigrwydd o gael cymorth pam fod angen, a’r effaith bositif mae hynny’n gallu cael ar ein lles a iechyd meddwl.

Rhybudd cynnwys: hunan anafu

Stori Daisy yn dechrau yn ei harddegau (4:48)
Stori Hywel a’i brofiad ef (8:06)
Cyngor i fyfyrwyr sydd eisiau agor allan (20:32)
Trystan yn trafod ei brofiad personol ef o agor allan a chael cymorth (22:07)
Dod o hyd i gwnselydd sy’n addas i chi (24:10)
Blogiau ar meddwl.org yn rhannu profiadau (26:14)
Pwysigrwydd cael cymorth (31:34)
Show more...
2 years ago
35 minutes

Sgwrs?
Niwroamrywiaeth
Mae niwroamryiaeth yn derm i ni’n clywed yn fwyfwy amal, ac mae’n un sy’n cwmpasu nifer o gyflyrau gwahanol - gan gynnwys anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, neu ADHD, awtistiaeth, dyslecsia a dyspracsia, ymysg eraill. Yn y bennod hon mae’r cwnselydd Endaf Evans, y fyfyrwraig Katie Phillips a’r gantores Non Parry yn dod ynghyd i rannu eu profiadau nhw o niwroamrywiaeth.

Trafodir y modd mae cael diagnosis o ADHD ac awtistiaeth wedi newid y ffordd maen nhw’n gweld ac yn beirniadu eu hunain.

Beth yw niwroamrywiaeth? (1:55)
Non yn cael diagnosis o awtistiaeth (5:31)
Katie yn mynd drwy’r broses o gael ei hasesu am ADHD (6:49)
Profiad proffesiynol a phersonol Endaf o ADHD (9:58)
Beth ydy’r nodweddion i edrych mas amdanyn nhw? (12:52)
Diagnosis ddim yn beth negyddol (28:27)
Show more...
2 years ago
34 minutes

Sgwrs?
Dechrau yn y Brifysgol
Cyffro? Pryder? Dim ond dau air i ddisgrifio rhai o’r teimladau mae rhywun yn eu cael cyn dechrau yn y brifysgol am y tro cynta’. Yn y bennod yma bydd y myfyriwr Lleu Price a’r awdures Megan Angharad Hunter sydd hefyd newydd orffen yn y brifysgol yn ymuno a Tara Bethan i sgwrsio efo Trystan ac Endaf.

Cofiwch fynd i http://myf.cymru am fwy o gyngor a gwybodaeth.

Beth os wyt ti’n teimlo dy fod ar y cwrs anghywir? (4:50)
Be sy’n denu rhywun i brifysgol? Y cwrs neu’r ardal? (6:40)
Ydi myfyrwyr yn ei chael hi’n anodd ymdopi gyda’r newid? (17:00)
Sut mae mynd ati i wneud yn siŵr fod y cydbwysedd yn iawn rhwng gwaith a chymdeithasu? (35:00)
Show more...
3 years ago
41 minutes

Sgwrs?
Iselder a Gorbryder
Yn ymuno a Trystan ac Endaf y tro hwn mae Non Parry o’r grŵp Eden a Phrifardd Eisteddfod T yr Urdd 2021, Kayley Sydenham. Mae’r ddwy wedi siarad yn agored iawn am eu profiadau o ddelio a phroblemau iechyd meddwl ac am y gwaith mewn nhw’n gwneud yn awr wrth ofalu am eu hunain a helpu eraill.

Cofiwch fynd i http://myf.cymru am fwy o gyngor a gwybodaeth.

Cefndir iselder Kayley (3:30)
Cefndir iselder Non (9:50)
Profiad Endaf o weithio efo pobol efo iselder a sut mae cael cefnogaeth (15:25)
Tips ar sut mae ymdopi a gorbryder? (22:00)
Show more...
3 years ago
42 minutes

Sgwrs?
Y Gymuned LHDT
Y Gymuned LHDT sef yr acronym ar gyfer lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yw’r pwnc y tro hwn. Mae Alys Hall o brifysgol Bangor, James Hope o Brifysgol Y Drindod Dewi Sant, Ellis Jones - un o ffigyrau mwyaf adloniannol instagram a Tiktok yn ymuno a Trystan ac Endaf i rannu eu teimladau wrth dyfu i fyny yn hoyw neu’n ddeurywiol, eu profiad o homoffobia a’r ffordd ddaethant o hyd i gymuned newydd o bobol yn y brifysgol.

Ellis Lloyd Jones ar Tiktok https://www.tiktok.com/@ellislloydjones?lang=en

Cofiwch fynd i http://myf.cymru am fwy o gyngor a gwybodaeth.

Pryd nes di sylweddoli dy fod yn uniaethu fel dy hoyw? (3:20)
Pryd nes di ddod allan i dy rieni a sut ymateb ges di? (12:50)
Cyngor Endaf ar symud o adre a byw yn annibynnol (18:30)
Y profiad o orfod dod allan dro ar ôl tro (22:30)
Ydi’r brifysgol yn gyfle i wneud ffrindiau newydd? (29:55)
Show more...
3 years ago
38 minutes

Sgwrs?
Y Cyfnod Clo
Y cyfnod clo neu lockdown yw’r pwnc y tro hwn. Mae wedi effeithio ac yn dal i effeithio pob un ohonom o addasu i astudio yn rhithiol ac ar-lein i orfod aros adre am wythnosau a cholli allan ar yr elfennau cymdeithasol o fod yn fyfyriwr.
Yn cadw cwmni i Trystan ac Endaf y tro yma mae’r myfyrwyr Deio Owen a Leigh Woolford ynghyd ag Ifan Pritchard sy’n canu i’r grŵp Gwilym.


Gwilym ar instagram https://www.instagram.com/_gwilym/?hl=en

Cofiwch fynd i http://myf.cymru am fwy o gyngor a gwybodaeth.

Sut effaith gafodd y cyfnod clo arnoch chi? (3:15)
Oedd y cyfnod clo yn rhoi’r rhyddid i chi fod yn greadigol? (11:00)
Profiad Deio o ddechrau’r cyfnod clo (15:00)
Mynd yn ol i fyw adre am y cyfnod clo (21:50)
Dechrau byw bywyd myfyriwr go iawn (29:50)
Show more...
3 years ago
43 minutes

Sgwrs?
Delwedd y Corff
Delwedd y corff a hunan ddelwedd yw’r pwnc y tro hwn ac mae dylanwad enwogion a’r cyfryngau cymdeithasol yn cael ei drafod mewn dyfnder.
Yn cadw cwmni i Trystan ac Endaf mae’r dylanwadwyr Jess Davies a Mari Gwenllian ynghyd a Mari Jones sy’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mari Gwenllian (H.I.W.T.I.) https://www.hiwti.com/
Jess Davies https://jabberwithjess.com/

Cofiwch fynd i http://myf.cymru am fwy o gyngor a gwybodaeth.

Mari Jones - dod yn ymwybodol o hunan ddelwedd a delwedd y corff? (3:19)
Jess Davies - sut oeddet ti’n teimlo am dy gorff pan oeddet ti yn dy arddegau? (10:08)
Mari Jones - dylanwad enwogion megis Kim Kardashian (11:56)
Mari Gwenllian - y teimlad wrth bostio llun ar instagram (21:00)
Jess Davies - pwysau ar ddynion i gyrraedd nod sydd ddim yn realistig (28:32)
Mari Gwenllian - pwysigrwydd edrych ar ol y corff a gwerffawrogi’r corff (40:10)
Show more...
3 years ago
43 minutes

Sgwrs?
Ym mhodlediad Sgwrs? mae Trystan Ellis-Morris yn sgyrsio gyda chwnselwyr, myfyrwyr ac ambell wyneb adnabyddus a dylanwadol am bynciau amrywiol yn ymwneud gyda lles a iechyd meddwl.

Am fwy o wybodaeth ewch i myf.cymru

Ariennir Sgwrs? gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.