Home
Categories
EXPLORE
True Crime
Comedy
Society & Culture
Business
Sports
History
Music
About Us
Contact Us
Copyright
© 2024 PodJoint
00:00 / 00:00
Sign in

or

Don't have an account?
Sign up
Forgot password
https://is1-ssl.mzstatic.com/image/thumb/Podcasts126/v4/7d/18/b8/7d18b857-2eb7-2fec-f9f5-105cced676ef/mza_2319662722598445900.jpg/600x600bb.jpg
Pod Midffîld!
Y bois i'r pod
24 episodes
6 days ago
Podlediad yn trafod y gyfres deledu eiconig, ‘C’mon Midffîld’ - gan y ffans, ar gyfer y ffans. Er mai fel cyfres radio y dechreuodd ‘Midffîld’, ar y sgrin fach y gwnaeth ei marc go iawn. Gethin Owen (athro) a Tom Gwynedd (hyfforddwr awyr agored) fydd yn sgwrsio, gyda Caio Iwan (newyddiadurwr) yn llywio’r drafodaeth - tri ffrind sydd wedi tyfu i fyny yn addoli ‘Midffîld’. Bydd y tri yn trafod y penodau fesul un, ac yn cael cwmni gwesteion arbennig ar hyd y daith. Dylunio: Celt Iwan Cerddoriaeth: Gethin Griffiths, Ciwb Hawlfraint: S4C, Rondo, Sain Troslais: Sian Naiomi, Emyr ‘Himyrs’ Roberts
Show more...
TV & Film
RSS
All content for Pod Midffîld! is the property of Y bois i'r pod and is served directly from their servers with no modification, redirects, or rehosting. The podcast is not affiliated with or endorsed by Podjoint in any way.
Podlediad yn trafod y gyfres deledu eiconig, ‘C’mon Midffîld’ - gan y ffans, ar gyfer y ffans. Er mai fel cyfres radio y dechreuodd ‘Midffîld’, ar y sgrin fach y gwnaeth ei marc go iawn. Gethin Owen (athro) a Tom Gwynedd (hyfforddwr awyr agored) fydd yn sgwrsio, gyda Caio Iwan (newyddiadurwr) yn llywio’r drafodaeth - tri ffrind sydd wedi tyfu i fyny yn addoli ‘Midffîld’. Bydd y tri yn trafod y penodau fesul un, ac yn cael cwmni gwesteion arbennig ar hyd y daith. Dylunio: Celt Iwan Cerddoriaeth: Gethin Griffiths, Ciwb Hawlfraint: S4C, Rondo, Sain Troslais: Sian Naiomi, Emyr ‘Himyrs’ Roberts
Show more...
TV & Film
Episodes (20/24)
Pod Midffîld!
Pennod 23: Recap Cyfres 3

Mae’r bois i’r pod yn ôl i gnoi cil ar gyfres 3 - y gyfres orau eto? Bydd y tri yn trafod eich sylwadau chi, yn cael gwybod mwy am darddiad “ciando”, yn edrych yn fanylach ar sillafiad ambell bennod, ac yn datrys dirgelwch y toasters.

Gwaith dylunio: Celt Iwan

Cerddoriaeth: Gethin Griffiths, Ciwb

Hawlfraint: S4C, Rondo Media, Recordiau Sain

Troslais: Sian Naiomi

Gwefan: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠podmidffild.cymru⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠ ⁠

X: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Facebook: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Instagram: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Ebost | Email: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠podmidffild@gmail.com

Show more...
6 months ago
30 minutes 27 seconds

Pod Midffîld!
Pennod 22: Meibion Bryncoch

Yr olaf yn y gyfres, ac un o’r rhai mwyaf cofiadwy. Ond mae triawd y pod yn stryglo i ddallt sut mae’r holl dwyllo sydd yn y bennod yn gweithio. Mae ‘na achosion o ddwyn defaid yn yr ardal, sydd ddim yn ddelfrydol o ystyried fod Tecs wedi taro dafad efo’i gar ar ôl dathliad pen-blwydd cynamserol Picton. A cyn iddyn nhw droi rownd, mae’r criw yn cael eu harestio. Ond ydyn nhw? Cameos cofiadwy gan y diweddar Meic Povey a Gari Williams.

Gwaith dylunio: Celt Iwan

Cerddoriaeth: Gethin Griffiths, Ciwb

Hawlfraint: S4C, Rondo Media, Recordiau Sain

Troslais: Sian Naiomi

Gwefan: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠podmidffild.cymru⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠ ⁠

X: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Facebook: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Instagram: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Ebost | Email: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠podmidffild@gmail.com

Show more...
7 months ago
50 minutes 36 seconds

Pod Midffîld!
Pennod 21: O Mam Bach

Y si ar led ydi fod Lydia Tomos wedi marw. Ar ei gwely angau [sic], mae’r berthynas awkward rhwng hi â’i mab yn dod i’r amlwg. Ond yn ei alar, mae Wali yn troi at eiriau doeth George. Yn y cyfamser, mae rhediad da Bryncoch (a Picton) yn parhau ac mae’r enwog Wilff, ysgrifennydd y lîg, yn ei wobrwyo gyda swydd rheolwr Tîm y Cynrhon.

Gwaith dylunio: Celt Iwan

Cerddoriaeth: Gethin Griffiths, Ciwb

Hawlfraint: S4C, Rondo Media, Recordiau Sain

Troslais: Sian Naiomi

Gwefan: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠podmidffild.cymru⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠ ⁠

X: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Facebook: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Instagram: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Ebost | Email: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠podmidffild@gmail.com

Show more...
7 months ago
47 minutes 5 seconds

Pod Midffîld!
Pennod 20: Tibetans v Mowthwelians

Clasur arall. Mae Tecs yn trio dod â’r de a’r gogledd yn agosach at ei gilydd, ond dydi Picton - sy’n flin am fod Pobol Y Cwm wedi’i ddifetha - ddim yn groesawgar iawn. Mae’n cymryd llond bws o Brummies i ddod â phawb at ei gilydd. Dydi’r sgwâr ddim digon mawr i hogia ni.

Gwaith dylunio: Celt Iwan

Cerddoriaeth: Gethin Griffiths, Ciwb

Hawlfraint: S4C, Rondo Media, Recordiau Sain

Troslais: Sian Naiomi

Gwefan: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠podmidffild.cymru⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠ ⁠

X: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Facebook: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Instagram: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Ebost | Email: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠podmidffild@gmail.com

Show more...
7 months ago
54 minutes 15 seconds

Pod Midffîld!
Pennod 19: Tŷ Fy Nhad

Mae’r daith i’r Eidal yn hen hanes. ’Nôl adra, mae tîm ffwtbol Bryncoch - ac yn enwedig George - ar rediad da. Ond tydi pethau ddim yn fêl i gyd oddi ar y cae, wrth i George a’r ci chweinllydd wthio Sandra i’r dibyn - neu i waelod y grisia’ o leia’. Mae’r bennod yn gofiadwy am sawl peth - o Ms Creepy Crawley i’r olygfa Monopoly eiconig - ond yn bennaf am mai dyma’r un pan gamodd un o’r cymeriadau ymylol allan o’r cysgodion, gan yngan ei geiriau cyntaf un… 

Gwaith dylunio: Celt Iwan

Cerddoriaeth: Gethin Griffiths, Ciwb

Hawlfraint: S4C, Rondo Media, Recordiau Sain

Troslais: Sian Naiomi

Gwefan: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠podmidffild.cymru⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠ ⁠

X: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Facebook: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Instagram: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Ebost | Email: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠podmidffild@gmail.com

Show more...
8 months ago
48 minutes 5 seconds

Pod Midffîld!
Pennod 18: Il Lavoro In Italia

Mae’r criw yn cyrraedd Rhufain ac yn cael croeso cynnes iawn - ond pam? Pam fod Walter Coccia wedi cymryd at Wali gymaint? Pa mor dda oedd Mario Fagandini mewn gwirionedd? Oes yna chwerthiniad fwy iach nag un Graham? Ac wrth i deyrngarwch Sandra i George gael ei brofi i’r eithaf, ydi Picton yn aros yn ffyddlon i Elsi?

Gwaith dylunio: Celt Iwan

Cerddoriaeth: Gethin Griffiths, Ciwb

Hawlfraint: S4C, Rondo Media, Recordiau Sain

Troslais: Sian Naiomi

Gwefan: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠podmidffild.cymru⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠ ⁠

Twitter: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Facebook: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Instagram: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Ebost | Email: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠podmidffild@gmail⁠⁠⁠









Show more...
8 months ago
38 minutes

Pod Midffîld!
Pennod 17: Yr Italian Job

Ar ôl seibiant annisgwyl o hir, mae’r bois i’r pod yn ôl! 1990 ydi hi - ychydig fisoedd cyn Cwpan y Byd yn Yr Eidal - pan mae Picton yn derbyn cynnig sy’n rhy dda i’w wrthod. Wrth i griw Bryncoch fynd ati i godi arian er mwyn gwireddu’r freuddwyd o chwarae dramor, mae’n edrych yn debyg na fydd pawb yn gallu mynd. Diolch byth bod digon o doasters. Ydi’r holl beth yn dod â’r gwaethaf allan yn Picton? Ydi mae o. Croeso ’nôl i’r pod! 

Gwaith dylunio: Celt Iwan

Cerddoriaeth: Gethin Griffiths, Ciwb

Hawlfraint: S4C, Rondo Media, Recordiau Sain

Troslais: Sian Naiomi

Gwefan: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠podmidffild.cymru⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠ ⁠

Twitter: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Facebook: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Instagram: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Ebost | Email: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠podmidffild@gmail⁠⁠⁠




Show more...
8 months ago
54 minutes 56 seconds

Pod Midffîld!
Pennod arbennig: John Pierce Jones

Hir yw pob ymaros… Ar ddiwrnod yr etholiad cyffredinol, mae gan y bois i’r pod gyfweliad gydag un o’r ymgeiswyr mwyaf dadleuol yn hanes etholiadau cyngor cymundeb Bryncoch - Arthur Picton ei hun! Ond peidiwch poeni, ffans ffyddlon ‘Midffîld’, fyddwn ni ddim yn holi Picton am wleidyddiaeth. Yn hytrach, bydd John ei hun yn siarad yn agored am ei fywyd - am ei addysg yn Lloegr, ei farn am arlwy S4C, yr her o chwilio am waith o achos Picton, a’i sgyrsiau olaf efo Mei Jones.

Gwaith dylunio: Celt Iwan

Cerddoriaeth: Gethin Griffiths, Ciwb

Hawlfraint: S4C, Rondo Media, Recordiau Sain

Troslais: Sian Naiomi

Gwefan: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠podmidffild.cymru⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠ ⁠

Twitter: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Facebook: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Instagram: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Ebost | Email: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠podmidffild@gmail⁠⁠

Show more...
1 year ago
34 minutes 52 seconds

Pod Midffîld!
Pennod 15: Recap Cyfres 2

Blwyddyn Newydd Dda! Yn y bennod arbennig yma, bydd Caio, Geth a Tom yn mynd drwy rai o uchafbwyntiau’r ail gyfres (a rhai o’r gyfres gynta’, eto) ac yn ateb ambell gwestiwn sydd wedi bod ar wefusau pawb dros y Nadolig. Ai David Hiraethog oedd/ydi Santa Clause? A oedd Hedd Wyn dros ei bwysau? Be ydi ystyr teitl pennod gynta’r ail gyfres? A be oedd Wali yn ei feddwl wrth ddefnyddio’r gair “arab” yn siop y cigydd? Hyn a mwy yn Recap Cyfres 2 - diolch am wrando.

Noddwr: <Be am rywun fel Hitachi?>

Gwaith dylunio: Celt Iwan

Hawlfraint: S4C, Rondo Media, Recordiau Sain

Cerddoriaeth: Gethin Griffiths, Ciwb

Troslais: Sian Naiomi

Gwefan: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠podmidffild.cymru⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠ ⁠

Twitter: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Facebook: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Instagram: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Ebost | Email: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠podmidffild@gmail⁠⁠


Show more...
1 year ago
37 minutes 39 seconds

Pod Midffîld!
Pennod 14: Match O' Ddy De

Yn y Bull, wrth wylio’r teledu, mae George yn gofyn i Sandra ei briodi fo. Er nad ydi Picton yn hapus, mae o’n mynnu eu bod nhw’n bwrw ati am ei fod o’n amau - yn anghywir - fod epil ar y ffordd. Buan iawn y mae’r diwrnod mawr yn cyrraedd, ond a fydd George Winston Huws a Sandra Picton yn llwyddo i gadw’r gyfrinach oddi wrth y sgamp Picton am ddigon hir? Ydi Tecs yn ddewis da fel gwas priodas? A pwy fysa’n curo mewn ffeit rhwng Picton a George? Mi gewch chi’r atebion i hein i gyd - a mwy - ym mhennod olaf y gyfres.

Noddwyr: Harold Monk

Gwaith dylunio: Celt Iwan

Hawlfraint: S4C, Rondo Media, Recordiau Sain

Cerddoriaeth: Gethin Griffiths, Ciwb

Troslais: Sian Naiomi, Emyr 'Himyrs' Roberts

Gwefan: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠podmidffild.cymru⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠ ⁠

Twitter: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Facebook: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Instagram: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Ebost | Email: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠podmidffild@gmail⁠⁠


Show more...
1 year ago
42 minutes 42 seconds

Pod Midffîld!
Pennod 13: Rhyfal Cartra

Dyma’r bennod lle mae pawb yn troi ar ei gilydd. Ma’ Tecs yn sgorio un own goal yn ormod ac mae Picton wedi cael digon ac yn edrych tua’r “daffodil”. Er mawr siom i’r comiti, ac i Sandra, mae George yn bwriadu gadael a symud i’r Rhyl ar ôl cael ei sgowtio, tra bod Wali ffansi go ar fod yn hyfforddwr. Ond buan iawn y mae’r cyfan yn mynd ar chwâl. Pwy fydd yno i stopio pawb rhag dinistrio’r clwb? Pwy ydi Emlyn bach? Be’n union ydi Kleptomaniac? Ac oes ‘na wbath yn mynd ‘mlaen rhwng Harri a Sandra?! ;)

Noddwyr: Mr Bailey Caffi Dre

Gwaith dylunio: Celt Iwan

Hawlfraint: S4C, Rondo Media, Recordiau Sain

Cerddoriaeth: Gethin Griffiths, Ciwb

Troslais: Sian Naiomi, Emyr 'Himyrs' Roberts

Gwefan: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠podmidffild.cymru⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠ ⁠

Twitter: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Facebook: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Instagram: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Ebost | Email: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠podmidffild@gmail⁠

Show more...
1 year ago
48 minutes 28 seconds

Pod Midffîld!
Pennod 12: Gweld Sêr

Mae’n amser eto i feddwl am ffyrdd o godi arian i’r clwb. Mae capel y pentra’ yn dathlu canmlwyddiant - siawns bod Clwb Pêl-droed Bryncoch yn 100 oed hefyd? Mae Picton yn llwyddo i berswadio digon o bobl fod hynny’n wir, ond a fydd o (a Wali) yn llwyddo i ddenu sêr go iawn i gymryd rhan mewn gêm fawreddog? #moonlanding

Noddwyr: Donc ar y Delyn

Gwaith dylunio: Celt Iwan

Hawlfraint: S4C, Rondo Media, Recordiau Sain

Cerddoriaeth: Gethin Griffiths, Ciwb

Troslais: Sian Naiomi, Emyr 'Himyrs' Roberts

Gwefan: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠podmidffild.cymru⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠ ⁠

Twitter: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Facebook: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Instagram: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Ebost | Email: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠podmidffild@gmail⁠

Show more...
1 year ago
43 minutes 17 seconds

Pod Midffîld!
Pennod 11: Y Gwir yn Erbyn y Byd

Am ryw reswm, ma’ Picton yn meddwl ei bod hi’n syniad da i seinio’r chwaraewr mwyaf budur yn y gynghrair. Yr unig broblem ydi - ar wahân i’r ffaith fod neb yn y clwb isio Breian Fawr yno - mae’r amddiffynnwr yn wynebu gwaharddiad hir. Ond a fydd tricia’ Picton yn llwyddo i dwyllo’r panel disgyblu?

Gwestai arbennig: Dewi Rhys

Noddwyr: Cwmni plastro Bob Taylor

Gwaith dylunio: Celt Iwan

Hawlfraint: S4C, Rondo Media, Recordiau Sain

Cerddoriaeth: Gethin Griffiths, Ciwb

Troslais: Sian Naiomi, Emyr 'Himyrs' Roberts

Gwefan: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠podmidffild.cymru⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠ ⁠

Twitter: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Facebook: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Instagram: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Ebost | Email: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠podmidffild@gmail⁠



Show more...
1 year ago
47 minutes 11 seconds

Pod Midffîld!
Pennod 10: Bryn o Briten

Daw un o elynion penna’ Picton i’r fei am y tro cynta’, ond dydi ennill ar y cae ddim yn ddigon i Reg Clark. Mae rheolwr Brynaber yn awyddus i gael y gora’ o Picton mewn cwis hefyd. Yn y cyfamser, mae ‘na ddryswch wrth ddosbarthu cylchgronau yn y pentra - Y Ffedog a rhai budur o Sgandinafia sy’n gwneud y rownds. Ond pwy fydd yn cael y bai am roi’r mochyndra aflan i’r henoed? Pwy sy’n cael ei disgrifio gan y bois i’r pod fel “c*c wyllt”? Ac ers pryd ma’ Tecs yn fecanic da?!

Gwestai arbennig: Mared Maggs

Noddwyr: Reg Clark Painter & Decorator

Gwaith dylunio: Celt Iwan

Hawlfraint: S4C, Rondo Media, Recordiau Sain

Cerddoriaeth: Gethin Griffiths, Ciwb

Troslais: Sian Naiomi, Emyr 'Himyrs' Roberts

Gwefan: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠podmidffild.cymru⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠ ⁠

Twitter: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Facebook: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Instagram: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Ebost | Email: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠podmidffild@gmail




Show more...
2 years ago
41 minutes 27 seconds

Pod Midffîld!
Pennod 9: Craig o Arian

Wrth i Bryncoch chwilio am noddwr newydd, daw dyn busnes, Mr Craig, i’r fei - ac mae ganddo gynnig all Picton mo’i wrthod. Yn y cyfamser, mae ‘na dŷ gwydr newydd wedi’i godi mewn lle anghyfleus, tra bod y cigydd lleol wedi troi stumog Wali. Ond a fydd ei salmonella yn fendith yn y pen draw? A be ydi enw cynta’ Mr Craig?!

Gwestai arbennig: Geoff Wright

Noddwyr: Timothy Owen Wallis      

Gwaith dylunio: Celt Iwan

Hawlfraint: S4C, Rondo Media, Recordiau Sain

Cerddoriaeth: Gethin Griffiths, Ciwb

Troslais: Sian Naiomi, Emyr 'Himyrs' Roberts

Gwefan: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠podmidffild.cymru⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠ ⁠

Twitter: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Facebook: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Instagram: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠

Ebost | Email: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠podmidffild@gmail

Show more...
2 years ago
46 minutes 29 seconds

Pod Midffîld!
Pennod 8: Cân Di Bennill Fwyn

Mae’r bois i’r pod yn ôl! Yn y bennod estynedig yma, bydd yr hogia’n rhoi sylw haeddiannol i un o olygfeydd mwyaf cofiadwy Midffîld, wrth i heddwas ifanc achosi hafoc ym Mryncoch. Ond a fydd y criw yn ei ddal o cyn iddo fo eu dal nhw? A oes ‘na lyfr o’r enw ‘Roy McCoy and the Red Hill Gang’ go iawn? Ac yn bwysicach fyth, pam fod Ted y tafarnwr yn chwarae’r piano ganol p’nawn Sadwrn?

Gwestai arbennig: Merfyn Pierce Jones

Noddwyr: Gwesty Rhyd

Gwaith dylunio: Celt Iwan

Cerddoriaeth: Gethin Griffiths, Ciwb

Hawlfraint: S4C, Rondo Media, Recordiau Sain

Troslais: Sian Naiomi, Emyr 'Himyrs' Roberts

Gwefan: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠podmidffild.cymru⁠⁠⁠⁠⁠⁠ ⁠Twitter: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠ Facebook: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠ Instagram: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠⁠ Ebost | Email: ⁠⁠⁠⁠⁠⁠podmidffild@gmail.comddoriaeth: Gethin Griffiths, Ciwb

Hawlfraint: S4C


Show more...
2 years ago
59 minutes 56 seconds

Pod Midffîld!
Pennod 7: Recap Cyfres 1

Mae'r gyfres gynta ar ben ac mae 'na wersi wedi'u dysgu. Yn y bennod arbennig yma, bydd yr hogia'n mynd drwy rai o uchafbwyntiau'r gyfres agoriadol, edrych 'nôl ar gyfraniadau'r gwesteion ac yn trafod rhai o negeseuon y gwrandawyr. Ymysg yr eitemau ar yr agenda mae Yncl Rufus, Post ar y Sul, beirdd cwsg a Geraint Wyn...


Gwefan: ⁠⁠⁠⁠podmidffild.cymru⁠⁠⁠⁠ ⁠Twitter: ⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠ Facebook: ⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠ Instagram: ⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠ Ebost | Email: ⁠⁠⁠⁠podmidffild@gmail.com⁠

Show more...
2 years ago
35 minutes 43 seconds

Pod Midffîld!
Pennod 6: Nadolig Bryncoch

Ym mhennod ola’r gyfres, mae’r comiti yn gweld cyfle i fanteisio ar ysbryd yr ŵyl er mwyn codi pres i’r clwb. Mae Jean yn bygwth dod â gyrfa lewyrchus Tecs fel goli i ben yn gynt na’r disgwyl, tra bod Wali yn mynd o gwmpas y pentra’ yn “di-di-o”. Mae Picton - sy’n gwrthod gadael i George ddod i ddathlu ato fo a Sandra - yn derbyn ei fod o’n rhy fawr i fod yn Santa Clause. Ond pwy ydi’r person yn y wisg goch? Pwy gythraul sy’ isio twrci noson cyn Dolig? Ac yn bwysicach fyth, sut allwch chi gael watsh Gymraeg?

Gwefan: ⁠⁠⁠⁠podmidffild.cymru⁠⁠⁠⁠ ⁠Twitter: ⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠ Facebook: ⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠ Instagram: ⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠ Ebost | Email: ⁠⁠⁠⁠podmidffild@gmail.com⁠


Show more...
2 years ago
23 minutes 53 seconds

Pod Midffîld!
Pennod 5: Y Trip

Er ei bod hi’n noswyl gêm gwpan fawr, mae’r criw allan yn clybio ym Mhrestatyn. Wrth i Wali ddarbwyllo Picton fod Sandra yn saff yn nwylo Tecs, mae’r goli cyfrifol wedi’i ddallu gan Miss Candy Floss. Yr wythnos yma, bydd yr hogia’n trafod barddoniaeth Eifion Wyn, agwedd Sandra, ac anffyddlondeb Tecs.

Gwestai arbennig: Sian Naiomi


Gwefan: ⁠⁠⁠⁠podmidffild.cymru⁠⁠⁠⁠ ⁠Twitter: ⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠ Facebook: ⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠ Instagram: ⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠ Ebost | Email: ⁠⁠⁠⁠podmidffild@gmail.com


Show more...
2 years ago
49 minutes 13 seconds

Pod Midffîld!
Pennod 4: Traed Moch

Mae’r FA yn bryderus am ymddygiad rhai o glybiau bach y gogledd. Picton sydd â’r dasg ddi-ddiolch o achub cam Clwb Pêl-droed Bryncoch ar y weirles, tra bod George allan yn dathlu’i ben-blwydd. Yn y cyfamser, mae Breian Fawr - ar dennyn rheolwr Llaneurwyn, Ned Thompson - yn chwilio am Gordon Whitehead, sydd wedi caboli efo’i wraig o. Mae’r cyfan yn mynd o ddrwg i waeth mewn gêm danllyd rhwng y ddau dîm.

Gwestai arbennig: Ian Gwyn Hughes


Gwefan: ⁠⁠⁠podmidffild.cymru⁠⁠⁠ ⁠Twitter: ⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠ Facebook: ⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠ Instagram: ⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠ Ebost | Email: ⁠⁠⁠podmidffild@gmail.com

Show more...
2 years ago
39 minutes 55 seconds

Pod Midffîld!
Podlediad yn trafod y gyfres deledu eiconig, ‘C’mon Midffîld’ - gan y ffans, ar gyfer y ffans. Er mai fel cyfres radio y dechreuodd ‘Midffîld’, ar y sgrin fach y gwnaeth ei marc go iawn. Gethin Owen (athro) a Tom Gwynedd (hyfforddwr awyr agored) fydd yn sgwrsio, gyda Caio Iwan (newyddiadurwr) yn llywio’r drafodaeth - tri ffrind sydd wedi tyfu i fyny yn addoli ‘Midffîld’. Bydd y tri yn trafod y penodau fesul un, ac yn cael cwmni gwesteion arbennig ar hyd y daith. Dylunio: Celt Iwan Cerddoriaeth: Gethin Griffiths, Ciwb Hawlfraint: S4C, Rondo, Sain Troslais: Sian Naiomi, Emyr ‘Himyrs’ Roberts