
Ym mhennod ola’r gyfres, mae’r comiti yn gweld cyfle i fanteisio ar ysbryd yr ŵyl er mwyn codi pres i’r clwb. Mae Jean yn bygwth dod â gyrfa lewyrchus Tecs fel goli i ben yn gynt na’r disgwyl, tra bod Wali yn mynd o gwmpas y pentra’ yn “di-di-o”. Mae Picton - sy’n gwrthod gadael i George ddod i ddathlu ato fo a Sandra - yn derbyn ei fod o’n rhy fawr i fod yn Santa Clause. Ond pwy ydi’r person yn y wisg goch? Pwy gythraul sy’ isio twrci noson cyn Dolig? Ac yn bwysicach fyth, sut allwch chi gael watsh Gymraeg?
Gwefan: podmidffild.cymru Twitter: @podmidffild Facebook: @podmidffild Instagram: @podmidffild Ebost | Email: podmidffild@gmail.com