
Yn y Bull, wrth wylio’r teledu, mae George yn gofyn i Sandra ei briodi fo. Er nad ydi Picton yn hapus, mae o’n mynnu eu bod nhw’n bwrw ati am ei fod o’n amau - yn anghywir - fod epil ar y ffordd. Buan iawn y mae’r diwrnod mawr yn cyrraedd, ond a fydd George Winston Huws a Sandra Picton yn llwyddo i gadw’r gyfrinach oddi wrth y sgamp Picton am ddigon hir? Ydi Tecs yn ddewis da fel gwas priodas? A pwy fysa’n curo mewn ffeit rhwng Picton a George? Mi gewch chi’r atebion i hein i gyd - a mwy - ym mhennod olaf y gyfres.
Noddwyr: Harold Monk
Gwaith dylunio: Celt Iwan
Hawlfraint: S4C, Rondo Media, Recordiau Sain
Cerddoriaeth: Gethin Griffiths, Ciwb
Troslais: Sian Naiomi, Emyr 'Himyrs' Roberts
Gwefan: podmidffild.cymru
Twitter: @podmidffild
Facebook: @podmidffild
Instagram: @podmidffild
Ebost | Email: podmidffild@gmail