Home
Categories
EXPLORE
True Crime
Comedy
Society & Culture
Business
Sports
History
TV & Film
About Us
Contact Us
Copyright
© 2024 PodJoint
00:00 / 00:00
Sign in

or

Don't have an account?
Sign up
Forgot password
https://is1-ssl.mzstatic.com/image/thumb/Podcasts211/v4/06/1b/71/061b71d9-b078-f7f6-ee23-33ecd06b88aa/mza_4665803102085528433.jpg/600x600bb.jpg
Y Panel Chwaraeon
BBC Radio Cymru
9 episodes
1 week ago

Panelwyr Dros Ginio yn trafod y diweddara’ o’r byd chwaraeon. The Dros Ginio panellists discuss the latest sport news.

Show more...
Sports
RSS
All content for Y Panel Chwaraeon is the property of BBC Radio Cymru and is served directly from their servers with no modification, redirects, or rehosting. The podcast is not affiliated with or endorsed by Podjoint in any way.

Panelwyr Dros Ginio yn trafod y diweddara’ o’r byd chwaraeon. The Dros Ginio panellists discuss the latest sport news.

Show more...
Sports
Episodes (9/9)
Y Panel Chwaraeon
Y Panel Chwaraeon -   Rygbi a Chriced

Ymunwch gyda Dewi Llwyd a'r panelwyr Lauren Salter, Billy McBryde a Geraint Cynan, yn trafod dyfodol y rhanbarthau rygbi yng Nghymru, Cyfres yr Hydref, Stori drasig y chwaraewr criced ifanc 17 mlwydd oed o Awstralia Ben Austin; a chapten criced Awstralia Pat Cummins allan am y prawf cyntaf, a faint o help fydd hynny i obeithion Lloegr yng Nghyfres y Lludw?

Show more...
1 week ago
14 minutes

Y Panel Chwaraeon
Y Panel Chwaraeon - Pêl-droed, Rygbi, Tenis, Gymnasteg a Seiclo

Catrin Heledd a'r panelwyr Gwennan Harries, Steffan Leonard a Dyfed Cynan sy'n trafod cyfraniad Jess Fishlock i bêl-droed merched yng Nghymru, gem gynta Tom Lockyer yn dilyn ataliad ar y galon, beth sydd angen newid o fewn Undeb Rygbi Cymru er mwyn sicrhau canlyniadau i'r tîm cenedlaethol, llwyddiant Mimi Xu ym Mhencampwriaeth Tenis Agored Wrecsam, medal arian i Ruby Evans ym Mhencampwriaeth Gymnasteg y Byd a medalau ym myd seiclo i Josh Tarling, Emma Finucane ac Emma Morris ym Mhencampwriaethau Trac y Byd.

Show more...
2 weeks ago
15 minutes

Y Panel Chwaraeon
Y Panel Chwaraeon -   Rygbi; Pêl-droed; a Syrffio

Ymunwch gyda Dewi Llwyd a'r panelwyr Catrin Heledd, Mei Emrys a'r gohebydd Dafydd Pritchard yn trafod dyfodol rhanbarthau rygbi Cymru yn dilyn cyhoeddiad ymgynghoriad Undeb Rygbi Cymru; Gobeithion Cymru yng Nghyfres yr Hydref?; Gêm olaf Jess Fishlock i Gymru yn erbyn Awstralia, a'i brawd James sydd wedi'w benodi'n reolwr ar dîm merched Y Bari; A hanes y syrffrwraig Yolanda Hopkins, sydd yn hanner Cymraes, ac wedi cael llwyddiant yn ddiweddar.

Show more...
2 weeks ago
14 minutes

Y Panel Chwaraeon
Y Panel Chwaraeon -  Ralio; Rygbi; Pêl-droed; Marathon; a Sumo

Ymunwch gyda Rhodri Llywelyn a'r panelwyr Gabriella Jukes, Gruff McKee a'r gohebydd Dafydd Pritchard yn trafod ymgyrch Elfyn Evans ym Mhencampwriaeth Rali y Byd; Dewisiadau Steve Tandy, hyfforddwr Cymru ar gyfer Cyfres yr Hydref; Gêm nesaf menywod Cymru yn erbyn Awstralia, a diwedd cyfnod i Jess Fishlock; Ysgaru drwy farathon yn ffenomenon; Y Grand Sumo sydd wedi bod yn Llundain, a'r enillydd Hoshoryu yn cael potel fawr o soy sauce fel gwobr, felly tlysau, neu wobrau, annarferol mewn chwaraeon?

Show more...
3 weeks ago
14 minutes

Y Panel Chwaraeon
Y Panel Chwaraeon - Pêl-droed, Seiclo, Dartiau a Ralio

Dewi Llwyd a'r panelwyr Hana Medi, Owen Jenkins a Carl Roberts sy'n trafod canlyniad Cymru yn erbyn Gwlad Belg ac ymddangosiad llygoden fawr ar y cae, sylw i'r cyfreithiwr deugain oed o Gaerfaddon nath guro pencampwr y byd a’r Tour de France Tadej Pogacar mewn ras ddringo allt yn ei dref enedigol yn Slofenia, ralio wrth i Elfyn Evans gystadlu yn Rali Canol Ewrop a llwyddiant Beau Graves ym myd y dartiau wrth iddi guro Luke Littler.

Show more...
3 weeks ago
16 minutes

Y Panel Chwaraeon
Y Panel Chwaraeon - Pel-droed, Rygbi, Dartiau, Seiclo ac enillwyr annisgwyl

Rhodri Llywelyn a'r panelwyr Anwen Jones, Nic Parry ac Ian Mitchelmore sy'n trafod gem Cymru yn erbyn Gwlad Belg yn Rowniadau rhagbrofol Cwpan y Byd, hynt a helynt Jonny Clayton a Gerwyn Price yng nghystadleuaeth Grand Prix Dartiau'r Byd, hunangofiant Geraint Thomas a'r bwyd ma athletwyr yn ei aberthu, ac enillwyr annisgwyl.

Show more...
4 weeks ago
16 minutes

Y Panel Chwaraeon
Pel-droed, Dartiau, Rygbi a Tennis

Ymunwch gyda Alun Thomas a'r panelwyr Lowri Roberts, Dewi Williams a Dafydd Jones sy'n trafod y golled yn erbyn Lloegr, y disgwyliadau o berffeithrwydd sydd gan swyddogion mewn gemau, llwyddiant Jonny Clayton a Gerwyn Price yng nghystadleuaeth Grand Prix Dartiau'r Byd a'r gyfrinach sy'n caniatau i Djokovic barhau i chwarae tennis a fyntau'n 38 mlwydd oed.

Show more...
1 month ago
15 minutes

Y Panel Chwaraeon
Y Panel Chwaraeon - Pêl-droed; Ralio; Rygbi ac Athletau

Ymunwch gyda Rhodri Llywelyn a'r panelwyr Rhiannon Sim, Dyfed Cynan a'r gohebydd Dylan Griffiths yn trafod gemau nesaf tîm pêl-droed Cymru yn erbyn Lloegr a Gwlad Belg; Ail i Ioan Lloyd a'i gyd-yrrwr Sion Williams ym Mhencampwriaeth Rali Iau Ewrop; Gemau'r Pencampwriaeth Rygbi Unedig; Anaf i Louis Rees-Zammit a phwy gaiff eu dewis yng ngemau prawf Cyfres yr Hydref; Campau yn esblygu er mwyn denu mwy o gefnogwyr ifanc; Posteri, baneri a sloganau chwaraeon sy'n aros yn y cof.

Show more...
1 month ago
15 minutes

Y Panel Chwaraeon
Y Panel Chwaraeon - Snwcer, Pêl-droed, Tenis, Pêl-rwyd a Rygbi

Ymunwch gyda Dewi Llwyd a'r panelwyr Ffion Eluned Owen, Geraint Cynan a'r gohebydd Carl Roberts yn trafod sianel newydd yn arbennig ar gyfer gwylio snwcer; gemau nesaf pêl-droed Cymru yn erbyn Lloegr a Gwlad Belg; Pris tocynnau drud a thymheredd uchel Cwpan y Byd; Sylwadau beirniadol Wayne Rooney am amddiffynwyr pêl-droed; Roger Federer yn gweld bai am ddefnyddio cyrtiau tenis arafach; Penderfyniad tîm Pêl-rwyd Dreigiau Caerdydd i newid enw; a'r dyfalu'n parhau am ddyfodol rhanbarthau rygbi Cymru.

Show more...
1 month ago
15 minutes

Y Panel Chwaraeon

Panelwyr Dros Ginio yn trafod y diweddara’ o’r byd chwaraeon. The Dros Ginio panellists discuss the latest sport news.