Home
Categories
EXPLORE
True Crime
Comedy
Society & Culture
Business
Sports
History
News
About Us
Contact Us
Copyright
© 2024 PodJoint
00:00 / 00:00
Sign in

or

Don't have an account?
Sign up
Forgot password
https://is1-ssl.mzstatic.com/image/thumb/Podcasts221/v4/ee/25/62/ee25623b-e1f1-7016-aac3-1bc720f3fe85/mza_13887101812949295189.jpg/600x600bb.jpg
Lleisiau Cymru
BBC Radio Cymru
46 episodes
2 days ago

Podlediadau Cymraeg o bob math, yn llawn lleisiau amrywiol a diddorol! Straeon personol ac emosiynol, sgyrsiau diddorol, eich hoff gyflwynwyr, a chymeriadau mwya' difyr Cymru i gyd mewn un lle. A collection of Welsh language podcasts featuring interesting voices and opinions from across Wales.

Show more...
Society & Culture
RSS
All content for Lleisiau Cymru is the property of BBC Radio Cymru and is served directly from their servers with no modification, redirects, or rehosting. The podcast is not affiliated with or endorsed by Podjoint in any way.

Podlediadau Cymraeg o bob math, yn llawn lleisiau amrywiol a diddorol! Straeon personol ac emosiynol, sgyrsiau diddorol, eich hoff gyflwynwyr, a chymeriadau mwya' difyr Cymru i gyd mewn un lle. A collection of Welsh language podcasts featuring interesting voices and opinions from across Wales.

Show more...
Society & Culture
Episodes (20/46)
Lleisiau Cymru
Gwersi Dolgarrog

Bu farw 16 o bobl yn nhrychineb Dolgarrog, yn 1925, pan dorrodd dau argae uwchben y pentref. Mae Hywel Griffiths yn ddarlithydd daearyddiaeth ac yn y rhaglen hon, mae'n olrhain yr hanes ofnadwy hwn, gan ofyn pa wersi a ddysgwyd o 1925? Yn sicr, cyflwynwyd mesurau diogelwch newydd yn 1930 yn sgil Dolgarrog, a ’does yr un drychineb debyg wedi digwydd ers hynny - ond mae ofn llifogydd yn parhau. Mae Hywel yn holi’r Athro Mererid Puw Davies sut mae’r ofnau hyn yn lliwio ein dychymyg, o’r Dilyw Beiblaidd a chwedl Cantre’r Gwaelod i’r nofelau diweddara. Mae Dr Cerys Jones yn egluro sut y gall newid hinsawdd olygu y bydd stormydd glaw a llifogydd yn fwy dwys ac yn digwydd yn amlach. Ystyriwn y tywydd eithafol diweddar yng Nghwm Rhondda a Valencia; ac ystyriwn sut y llwyddwyd i osgoi trychineb yn Blatten - ond methu yn Guadalupe ac Alau. Mae angen dysgu o wersi'r gorffennol o hyd er mwyn osgoi trychinebau fel Dolgarrog

Show more...
2 days ago
27 minutes

Lleisiau Cymru
Gwen y Wrach a Fi

Mae Gwenllian Ellis, neu Gwen, wastad wedi bod eisiau gwybod mwy am Gwen Ellis arall. Yn 1594 cafodd Gwen ferch Ellis o Landyrnog ei chrogi ar grocbren sgwâr Dinbych ar gyhuddiad o fod yn wrach. Hi oedd y person cyntaf i gael ei chrogi am witshgrafft yng Nghymru.

Yn y podlediad, Gwen y Wrach a Fi, mae Gwenllian Ellis yn mynd ar daith i ddarganfod pwy oedd Gwen y ferch, y chwaer, y ffrind, y wraig, y swynwraig a’r iachawraig, a pham rhoi’r gosb eithaf iddi.

O ymweld â sgwâr Dinbych lle dreuliodd hi ei heiliadau olaf, i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth lle mae cofnodion llys Gwen yn cael eu cadw, i Eglwys Llansanffraid ger Glan Conwy lle casglodd tystion i roi tystiolaeth yn ei herbyn, mae Gwenllian yn dod i ddeall mwy am stori Gwen a beth mae ei hanes yn ei ddweud wrthi am fod yn ferch heddiw. Ar ei thaith mae’n cael cwmni Holly Gierke, Ruth Williams, Dr Gareth Evans Jones, Dr David Moore a Siân Melangell Dafydd.

Show more...
2 weeks ago
56 minutes

Lleisiau Cymru
Kiri Pritchard-McLean

Kiri Pritchard McLean sy’n ymuno gyda Meinir Gwilym i sgwrsio am bopeth sy'n ymwneud â garddio! Ar ôl iddi ddychwelyd yn ôl i dŷ fferm y teulu, fe ddechreuodd gymryd diddordeb mewn tyfu ei chynnyrch ei hun yn enwedig dros y cyfnod clo. Bellach, mae ganddi brosiect go arbennig ar y gweill sy’n golygu tyfu llysiau a ffrwythau ar raddfa uwch gyda’r gobaith o allu darparu bocsys i fwydo aelodau o’r gymuned leol. Louise o Lanilltud Fawr sydd wedi darganfod y pleser o dyfu ei bwyd ei hun dros y blynyddoedd diwethaf ac Alex sy’n trafod yr hyn sydd wedi ei hysbrydoli i dyfu ei blodau ei hun adref.

Show more...
4 weeks ago
34 minutes

Lleisiau Cymru
Hywel Pitts

Wedi haf llawn gigs, mae Hywel yn cymryd seibiant haeddianol ac yn ymuno efo Meinir Gwilym i drafod ei ardd drefol yn y bennod yma o’r Podlediad Garddio. Mae Hywel wrth ei fodd yn tyfu llysiau a pherlysiau a’i gariad o goginio yn helpu iddo gynllunio’r hyn mae o am ei dyfu yn yr ardd yn flynyddol.  Anne sy’n trafod yr ardd fuodd hi’n brysur yn ei greu ar gyfer ei phlant ifanc a sut mae hynny wedi esblygu iddi bellach allu ei rannu gyda’r gymuned leol. Gregg sy’n trafod y tro yn ei yrfa pan gychwynnodd ei fusnes garddio ei hun a beth mae hynny’n ei olygu iddo fel unigolyn newroamrywiol.

Show more...
1 month ago
30 minutes

Lleisiau Cymru
Y Brotest

Yn 1985 gwnaeth cynlluniau dadleuol Cyngor Dosbarth Caerfyrddin i adeiladu byncer yn y dre ysgogi ar brotestiadau gan gannoedd o ymgyrchwyr heddwch.

Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach mae'r rheiny oedd yn ei chanol hi’n adrodd yr hanes, ac yn ystyried pa mor real yw’r bygythiad niwclear o hyd?

Show more...
1 month ago
28 minutes

Lleisiau Cymru
Y llythyren G

Ymunwch â Francesca Sciarrillo a Stephen Rule i drafod pob math o bethau’n ymwneud â’r Gymraeg. Ym mhob pennod maen nhw’n dewis llythyren o’r gair Cymraeg, ac yn trafod geiriau sy’n dechrau gyda’r llythyren yna. Tarddiad geiriau, hoff eiriau, cas eiriau, profiadau’r ddau wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg a llawer mwy... ac yn y bennod hon y llythyren G sydd dan sylw.

Show more...
1 month ago
33 minutes

Lleisiau Cymru
Y llythyren E

Ymunwch â Francesca Sciarrillo a Stephen Rule i drafod pob math o bethau’n ymwneud â’r Gymraeg. Ym mhob pennod maen nhw’n dewis llythyren o’r gair Cymraeg, ac yn trafod geiriau sy’n dechrau gyda’r llythyren yna. Tarddiad geiriau, hoff eiriau, cas eiriau, profiadau’r ddau wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg a llawer mwy... ac yn y bennod hon y llythyren E sydd dan sylw.

Show more...
2 months ago
42 minutes

Lleisiau Cymru
Y llythyren A

Ymunwch â Francesca Sciarrillo a Stephen Rule i drafod pob math o bethau’n ymwneud â’r Gymraeg. Ym mhob pennod maen nhw’n dewis llythyren o’r gair Cymraeg, ac yn trafod geiriau sy’n dechrau gyda’r llythyren yna. Tarddiad geiriau, hoff eiriau, cas eiriau, profiadau’r ddau wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg a llawer mwy... ac yn y bennod hon y llythyren A sydd dan sylw.

Show more...
2 months ago
36 minutes

Lleisiau Cymru
Y llythyren R

Ymunwch â Francesca Sciarrillo a Stephen Rule i drafod pob math o bethau’n ymwneud â’r Gymraeg. Ym mhob pennod maen nhw’n dewis llythyren o’r gair Cymraeg, ac yn trafod geiriau sy’n dechrau gyda’r llythyren yna. Tarddiad geiriau, hoff eiriau, cas eiriau, profiadau’r ddau wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg a llawer mwy... ac yn y bennod hon y llythyren R sydd dan sylw.

Show more...
2 months ago
30 minutes

Lleisiau Cymru
Y llythyren M

Ymunwch gyda Francesca Sciarillo a Stephen Rule i drafod pob math o bethau’n ymwneud a’r Gymraeg. Ym mhob pennod maen nhw’n dewis llythyren o’r gair Cymraeg, ac yn trafod geiriau sy’n dechrau gyda’r llythyren yna. Tarddiad geiriau, hoff eiriau, cas eiriau, profiadau’r ddau wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg a llawer mwy ... ac yn y bennod hon y llythyren M sydd dan sylw.

Show more...
2 months ago
25 minutes

Lleisiau Cymru
Y llythyren Y

Ymunwch â Francesca Sciarrillo a Stephen Rule i drafod pob math o bethau’n ymwneud â’r Gymraeg. Ym mhob pennod maen nhw’n dewis llythyren o’r gair Cymraeg, ac yn trafod geiriau sy’n dechrau gyda’r llythyren yna. Tarddiad geiriau, hoff eiriau, cas eiriau, profiadau’r ddau wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg a llawer mwy... ac yn y bennod hon y llythyren Y sydd dan sylw.

Show more...
3 months ago
33 minutes

Lleisiau Cymru
Y llythyren C

Ymunwch â Francesca Sciarrillo a Stephen Rule i drafod pob math o bethau’n ymwneud â’r Gymraeg. Ym mhob pennod maen nhw’n dewis llythyren o’r gair Cymraeg, ac yn trafod geiriau sy’n dechrau gyda’r llythyren yna. Tarddiad geiriau, hoff eiriau, cas eiriau, profiadau’r ddau wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg a llawer mwy ... ac yn y bennod hon y llythyren C sydd dan sylw.

Croeso felly i Dim ond Geiriau!

Show more...
3 months ago
37 minutes

Lleisiau Cymru
Mandy Watkins

Y cynllunydd tai, Mandy Watkins sy’n ymuno gyda Meinir Gwilym i drafod gwaith adnewyddu ar ei thŷ fferm a’r ardd lle mae hi wedi bod yn byw dros y ddeng mlynedd diwethaf ar Ynys Môn. Mae hi’n galw ei hun yn ‘reluctant gardener’ ar ôl sylweddoli’r holl waith oedden nhw’n ymgymryd unwaith i’r teulu gychwyn adnewyddu Rallt. Yn y bennod yma, mae Mandy yn hel atgofion o’i chymdogion oedd yn garddio yn ystod ei phlentyndod a sut ddaeth yn fwy o ddiddordeb iddi yn ystod y cyfnod clo. Fel cynllunydd, mae Mandy yn casglu ysbrydoliaeth o bob man wrth iddi freuddwydio am yr ardd berffaith - er, mae garddio yn dibynnu ar lawer mwy o ffactorau na chynllunio tai!

Lowri Johnston sy’n sôn am her go fawr a wynebodd eleni wrth iddi dyfu blodau ar gyfer ei phriodas ym mis Mai. Fel rhywun oedd wedi gwneud ychydig o arddio cyn hynny, mae hi’n sôn am ei phrofiad o dyfu mewn potiau rhan fwyaf, yn enwedig yn ystod y cyfnod clo. A fuodd yr holl waith tyfu eleni yn llwyddiannus? A be sydd ar y gweill nesaf yn yr ardd?

Rachel Griffiths a gychwynnodd garddio yn ystod ei chyfnod mamolaeth sy’n siarad am ei phrofiadau o arddio gyda’i phlant bellach. Fe gychwynnodd y diddordeb fel rhywbeth i’w wneud oedd yn wahanol i ddelio gyda’r holl boteli a napis!

Show more...
3 months ago
34 minutes

Lleisiau Cymru
Dafydd Iwan

Dafydd Iwan sy’n ymuno gyda Meinir i drafod tyfu llysiau yn yr ardd. Yn ddiddordeb sydd wedi dod yn fwy amlwg iddo dros y deng mlynedd diwethaf, mae’n cael boddhad o ailgysylltu gyda natur. Mae codi yn y bore i weld be sydd wedi egino yn un o bleserau mawr bywyd bellach.

Yn y bennod yma, mi fydd Dafydd yn hel atgofion am ei blentyndod ac am ei ddiweddar frawd, Huw a’r rôl oedd garddio yn ei gymryd ym mywydau aelodau blaenllaw'r teulu.

Cawn hefyd glywed gan Sam sy’n rhedeg gardd farchnad Llysiau Menai ar Ynys Môn. Yno, mae’n tyfu cynnyrch tymhorol ar ddarn o dir dros acer. Fel bachgen ifanc, fuodd o’n tyfu a’n garddio efo’i deulu cyn gweithio ar sawl fferm llysiau ac yna sefydlu ei ardd farchnad ei hun.

Lleu sy’n trafod tyfu ar ei randir yng Nghaerdydd. Fe gychwynnodd garddio ar y tir tua 10 mlynedd yn ôl a’n defnyddio dulliau traddodiadol o droi'r tir, ond ar ôl datblygu poen cefn fe aeth ati i ymchwilio’r dull di-bal (no dig).

Meinir sy’n mynd ati i ateb un o’ch cwestiynau chi, gydag un o wrandawyr y podlediad yn holi am awgrymiadau o blanhigion sy’n gwrthsefyll cyfnodau hir o sychder. Ym Mhant y Wennol, mae’r nepeta yn ffynnu mewn cyfnodau sych.

Ar y rhestr o jobsys yn yr ardd wythnos yma, mae’r lafant angen ei dorri’n ôl (gyda’r gobaith o ddefnyddio’r blodau mewn bisgedi Berffro!).

Show more...
3 months ago
33 minutes

Lleisiau Cymru
Ffion Emyr

Ffion Emyr sy’n ymuno â Meinir i drafod ei gardd fodern yng nghanol tref Caernarfon. Yn brosiect ddaru Ffion ymgymryd yn ystod 2020 tra oedd Ffion a’i phartner adref, pa ffordd well i wario’r cyfnod clo nac i weithio ar yr ardd? Elfen bwysig oedd datblygu mannau er mwyn adlonni ffrindiau a theulu ac i gael rhywle addas (a gwahanol) i fwyta brecwast, cinio a swper yn yr ardd. Mae’r ardd hyd yn oed wedi ennill gwobr yr ardd orau yng Nghaernarfon.

Gan fod Ffion yn disgwyl babi a’r nythu wedi cicio i mewn go iawn - mae hi hyd yn oed wedi bod yn dystio’r sied a hwfro’r glaswellt (oes, mae ganddi laswellt ffug ac os oes unrhyw un yn cael maddeuant am hynny, Ffion ydi’r un!). Oes lle iddi addasu’r ardd yn y blynyddoedd i ddod er mwyn gwneud yr ardal yn fwy ‘child friendly’ ac wrth feddwl am y dyfodol, ydi Ffion am fentro i dyfu fwy o’i chynnyrch ei hun?

Fe fyddwn ni hefyd yn clywed gan Siôn sy’n trafod prosiect GwyrddNi sy’n fudiad gweithredu ar newid hinsawdd gymunedol. Mae’r prosiect yn rhedeg amrywiaeth o weithgareddau garddio cymunedol ac wedi helpu sefydlu rhandiroedd yn ardal Dyffryn Nantlle.

Lowri sy’n sgwrsio am droi ei hoffter o dyfu blodau mewn i fusnes. Wrth ddod mewn i’w hail dymor tyfu eleni mae Lowri yn trafod dod yn fwy ymwybodol o gost prynu blodau sydd wedi eu mewnforio.

Show more...
4 months ago
33 minutes

Lleisiau Cymru
Yws Gwynedd

Yws Gwynedd sy’n ymuno â Meinir Gwilym i drafod tyfu llysiau yn y bennod hon. Yn weithgaredd y dechreuodd ychydig flynyddoedd yn ôl er mwyn ceisio byw bywyd iachach, mae angerdd amlwg Yws am arddio wedi mynd cam ymhellach ar ôl iddo benderfynu adeiladu tŷ newydd yn agosach at y patsh llysiau! Wrth fyw bywyd prysur, sut mae treulio amser yn yr ardd yn helpu Yws o ddydd i ddydd ac ydi hynny’n ysbrydoli ei ochr greadigol? Byddwn hefyd yn clywed gan Gareth, athro ac arweinydd awyr agored Ysgol Fferm Saltney Ferry, a bydd Kayleigh yn siarad am ei phrofiadau o werthu'r cartref teuluol er mwyn prynu dwy acer o dir gyda’r gobaith o fyw bywyd sy’n fwy hunangynhaliol.

Show more...
4 months ago
34 minutes

Lleisiau Cymru
Un Cam gydag Elin Fflur

Elin Fflur sydd yn ceisio dod i ddeall pam bod yna gynnydd mawr mewn merched yn rhedeg.

Mae merched o bob oed, bob cefndir, a phob lefel ffitrwydd yn penderfynu rhoi'r esgidiau rhedeg ymlaen a chamu allan o'r tŷ, yn aml i'r tywyllwch neu'r glaw. Ai ffitrwydd yn unig yw’r rheswm dros hyn?

Mae Elin yn siarad efo grwpiau rhedeg Môn Girls Run, Mae Hi'n Rhedeg, Smiles and Miles, Genod Gelert ac Anwen Jones.

Show more...
5 months ago
28 minutes

Lleisiau Cymru
Rhys Miles Thomas

Mae Rhys Miles Thomas wastad wedi eisiau gwneud pethau'n wahanol. Ers pan yn fachgen o Alma, yn Sir Gaerfyrddin, fe ymdrechodd i roi gogwydd gwahanol ar y traddodiadol a herio drwy rannu ei neges ei hun.

Gyda gyrfa lwyddiannus fel actor, cynhyrchydd, cyfarwyddwr, coreograffydd ac awdur, roedd ei ddyfodol yn ddisglair ar lwyfan byd-eang.

Er hyn fe ddaeth diagnosis o Sglerosis Ymledol, i'w herio yn ei fyd proffesiynol a'i fywyd personol. Gyda sawl blwyddyn heb symptomau, fe gynyddodd her y cyflwr gan gyfyngu ar ei allu i wneud tasgau y byddai wedi eu gwneud heb drafferth ychydig flynyddoedd ynghynt. Daw pwysigrwydd cefnogaeth deuluol i'r amlwg, ond hefyd y rhwystredigaethau a ddaw yn ei sgil.

Mae stori Rhys yn onest, yn feirniadol ar adegau ac yn amrwd. Gyda hyn, cawn obaith, gweledigaeth glir a deheuad am fyd cynhwysol a chyfartal i'r gymuned anabl. Hyn oll, wrth i'r byd 'Feddwl Yn Wahanol' am anabledd.

Show more...
5 months ago
47 minutes

Lleisiau Cymru
Kristy Hopkins

Yr athrawes Kristy Hopkins, sy’n westai ar bennod 2 o ‘Meddwl yn Wahanol’. Cardi yn wreiddiol ond bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda’i theulu, mae Kristy yn gweithio’n ddiflino i godi ymwybyddiaeth o fyddardod a’r heriau mae plant a phobl fyddar yn eu hwynebu.

Darganfu Kristy ei bod yn fyddar pan oedd yn 8 oed, pan nad oedd yn canolbwyntio yn yr ysgol. Er iddi gael y diagnosis, roedd ffordd hir o’i blaen cyn iddi deimlo’n ddigon hyderus i wisgo cymhorthion clyw a byw ei bywyd fel person byddar.

Bellach, yn athrawes i blant a phobl ifanc byddar yn Ne Cymru, mae hi hefyd yn ymgyrchu’n ddiflino i godi ymwybyddiaeth o’r heriau sy’n wynebu hi a’i theulu, gan annog pawb i ddysgu rhywfaint o Iaith Arwyddo Prydain.

Daw’r awch i weithredu wedi i’w merch gael ei geni’n hollol fyddar. Cawn glywed am eu taith wrth iddi benderfynu rhoi mewnblaniad cochlear i’w merch, a’r cymhlethdodau a ddaeth yn sgil hynny.

Er gwaethaf y cyfnodau tywyll, mae ysbryd cadarn Kristy yn disgleirio wrth iddi rannu ei buddugoliaethau a'i gweledigaeth o fyd byddar i blant y dyfodol.

Show more...
5 months ago
34 minutes

Lleisiau Cymru
Beth Frazer

Y gantores Beth Frazer o Ynys Môn yw gwestai pennod gyntaf Meddwl yn Wahanol. Ar ôl rhyddhau ei senglau pop cyntaf yn 16 oed, fe wnaeth Beth fwynhau cyfnod prysur o berfformio ar hyd Cymru a Lloegr.

Ond ymhen ychydig iawn o amser fe newidiodd ei bywyd yn llwyr. Ar ôl dioddef poenau yn ei llygad, fe gychwynnodd cyfnod hir o driniaeth a arweiniodd at ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd.

Mae Beth yn trafod yr effaith ar ei chorff a’i iechyd meddwl, yn egluro sut y gwnaeth ei theulu ei chynnal drwy’r cyfnodau mwyaf anodd ac yn rhannu ei gobeithion ar gyfer y dyfodol.

Show more...
5 months ago
33 minutes

Lleisiau Cymru

Podlediadau Cymraeg o bob math, yn llawn lleisiau amrywiol a diddorol! Straeon personol ac emosiynol, sgyrsiau diddorol, eich hoff gyflwynwyr, a chymeriadau mwya' difyr Cymru i gyd mewn un lle. A collection of Welsh language podcasts featuring interesting voices and opinions from across Wales.