Home
Categories
EXPLORE
True Crime
Comedy
Society & Culture
Business
Sports
History
News
About Us
Contact Us
Copyright
© 2024 PodJoint
00:00 / 00:00
Sign in

or

Don't have an account?
Sign up
Forgot password
https://is1-ssl.mzstatic.com/image/thumb/Podcasts125/v4/e7/e8/65/e7e86552-a26c-e908-b91f-3ce233df5bc4/mza_776563080359200894.jpg/600x600bb.jpg
Esgusodwch fi?
BBC Radio Cymru
25 episodes
7 months ago

Trafodaethau bywiog am yr hyn mae’n ei olygu i fod yn aelod o gymuned LHDTC+ yng Nghymru, yng nghwmni Iestyn Wyn a Meilir Rhys Williams. Iestyn Wyn & Meilir Rhys Williams celebrate the LGBTQ+ community in Wales.

Show more...
Personal Journals
Society & Culture
RSS
All content for Esgusodwch fi? is the property of BBC Radio Cymru and is served directly from their servers with no modification, redirects, or rehosting. The podcast is not affiliated with or endorsed by Podjoint in any way.

Trafodaethau bywiog am yr hyn mae’n ei olygu i fod yn aelod o gymuned LHDTC+ yng Nghymru, yng nghwmni Iestyn Wyn a Meilir Rhys Williams. Iestyn Wyn & Meilir Rhys Williams celebrate the LGBTQ+ community in Wales.

Show more...
Personal Journals
Society & Culture
Episodes (20/25)
Esgusodwch fi?
Euros Lyn: Ai ffantasi yw 'Heartstopper'?

Cyfarwyddwr y gyfres hynod boblogaidd 'Heartstopper', Euros Lyn (fe) yw gwestai'r bennod hon. Caiff Iestyn a Meilir gyfle i'w holi am y lwyddiant y gyfres ac arwyddocâd y llwyddiant hwnnw, ei brofiadau ef tra'n ei arddegau a pha brosiectau eraill cyffrous sydd ganddo ar y gweill.

Show more...
1 year ago
49 minutes

Esgusodwch fi?
Miriam Isaac: Ai ‘phase’ ydi o?

Y gantores a’r gyflwynwraig Miriam Isaac (hi) sy’n cadw cwmni i Iestyn a Meilir yn y bennod hon, ddyddiau ar ôl iddi rannu ei bod yn ddeurywiol ar lwyfan Cabarela. Cawn glywed am yr holl stereoteipio mae rhywun deurywiol yn dal i ddioddef, gan ofyn y cwestiwn, “ydyn ni fel cymuned LHDTC+ yr un mor euog o leihau profiad bywyd pobl deurywiol?”

Show more...
1 year ago
45 minutes

Esgusodwch fi?
Mirain Iwerydd: Be ti'n wisgo heddiw?

Y cyflwynydd Mirain Iwerydd (hi) sy'n sgwrsio efo Iestyn a Meilir yn y bennod hon, gan drafod ei brwdfrydedd tuag at ffasiwn a dillad lliwgar. Cawn glywed hefyd am ei chyfraniad i'r raglen deledu 'Ymbarél', agweddau cefn gwlad tuag at y gymuned ac ymateb ei theulu i'w hunaniaeth hi.

Show more...
1 year ago
34 minutes

Esgusodwch fi?
Daniel Huw Bowen: Gymeri di baned?

Sylfaenydd siop lyfrau Paned o Gê, Daniel Huw Bowen (fe) yw gwestai'r bennod hon. Yn ogystal â sgwrs am gynrychiolaeth o fewn y diwydiant llenyddol Cymraeg, caiff Iestyn, Meilir a Daniel drafodaeth am berthnasau polyamorous a'r diffyg cydnabyddiaeth cyfreithiol a gwelededd o berthnasau amrywiol.

Show more...
1 year ago
57 minutes

Esgusodwch fi?
Sara Huws: Faint wyt ti'n 'dead-liftio'?

Yr archifydd Sara Huws (hi) yw gwestai'r bennod hon. Yn ogystal â'i gwaith o ddydd i ddydd, mae gan Sara nifer o ddiddordebau sy'n amrywio o nofio dŵr gwyllt, crosio a chodi pwysau. Yn y sgwrs ddifyr hon, cawn glywed farn Sara am effaith cyfreithiau protestio newydd ar ddathliadau Balchder a sut mae'r gymuned wedi addasu er y cyfnod clô.

Show more...
1 year ago
53 minutes

Esgusodwch fi?
Serenity: Cwîn Ceredigion?

Mae gwestai brenhinol yn cadw cwmni i Iestyn a Meilir y bennod hon, sef y frenhines drag Serenity (hi/nhw) neu Chris Jones (fe) allan o drag. Cawn glywed am ysbrydoliaeth Serenity, ei balchder o'i hardal enedigol a pham ei bod wedi penderfynu aros yn ei milltir sgwar. Gyda phoblogrwydd drag ar ei uchaf erioed, pam fod cymaint o bobl yn ymddiddori yn y grefft?

Show more...
1 year ago
42 minutes

Esgusodwch fi?
Priya Hall: Oes gen ti jôc?

Ar drothwy ei sioe stand-up gyntaf yng Ngŵyl Fringe Caeredin, Priya Hall (hi) sy'n ymuno ag Iestyn a Meilir y bennod hon i rannu pam y dewisodd yrfa ym myd comedi a pha mor gynhwysol yw'r diwydiant stand-up. Hefyd, cawn glywed am brofiadau Priya a'i phartner wrth iddynt baratoi i ddechrau teulu, fel cwpwl cwiar, a'r rhwystrau y maent wedi eu hwynebu.

Show more...
1 year ago
47 minutes

Esgusodwch fi?
Mike Parker: Beth sydd mor arbennig am Gymru?

Tybed beth ddenodd Mike Parker (fo/fe) o Loegr i Fachynlleth? Yr awdur a'r cyn-wleidydd sy'n gwmni i Iestyn a Meilir y tro yma a chawn glywed pam fod Cymru mor agos at ei galon, pam y mentrodd i fyd gwleidyddiaeth a'r ysbrydoliaeth i'w lyfr hynod lwyddiannus, 'On the Red Hill'.

Show more...
1 year ago
42 minutes

Esgusodwch fi?
Mhara Starling: Pam ddim gwrach?

Na, nid gwrach ond swynwraig yw gwestai'r podlediad y bennod hon. Mhara Starling (hi) sy’n bwrw’i swyn dros Iestyn a Meilir wrth drafod dylanwad llên gwerin Cymraeg ar ei bywoliaeth heddiw a sut wnaeth y dylanwad hwnnw ail-gynnau ei balchder yn ei Chymreictod.

Show more...
1 year ago
46 minutes

Esgusodwch fi?
Gruff Jones: Ga i ofyn cwestiwn?

Yn y bennod hon, aiff Gruff (nhw) â ni ar eu taith o ddod i adnabod eu hunain fel person anneuaidd ac o rannu’r daith honno gyda rheiny sydd agosaf atynt, o gyd-aelodau’r band Swnami i’w teulu a’u teulu estynedig. Cawn glywed am ysbrydoliaeth y gân 'Be Bynnag Fydd' ac arwyddocâd y geiriau "rhwng dwy lan ond heb ddeall pam, yn perthyn i ddim" yn ogystal â gofyn y cwestiwn "sut mae modd holi am hunaniaethau traws ac anneuaidd heb sarhau neu ymyryd"?

Show more...
2 years ago
55 minutes

Esgusodwch fi?
Nia Morais: Wyt ti'n breuddwydio?

Da ni’n plymio i fyd sgwennu ffuglen ffantasïol yn y bennod hon efo’r awdur, dramodydd a'r bardd Nia Morais (hi) gan drafod pŵer adrodd straeon. Ar gychwyn ei swydd newydd fel Bardd Plant Cymru, cawn glywed uchelgeisiau Nia am ei chyfnod yn y rôl wrth iddi fynd ati i ddatgloi creadigrwydd plant Cymru.

Show more...
2 years ago
42 minutes

Esgusodwch fi?
Jeremy Miles: greddf yntau gwaith?

Mae Esgusodwch Fi yn ôl!

Yn ymuno ag Iestyn a Meilir ym mhennod gyntaf yr ail gyfres, mae Jeremy Miles (fo/fe), Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru.

Fe glywn am brofiadau ffurfiannol ei fagwraeth ym Mhontarddulais a dylanwad hynny ar ei waith fel gwleidydd. Yn y sgwrs ddadlennol yma mae'n rhannu sut mae ei hunaniaeth a'i rywioldeb wedi cyfrannu at ei waith fel gwleidydd a'i obeithion a'i bryderon at y dyfodol.

Show more...
2 years ago
43 minutes

Esgusodwch fi?
Wyt ti'n gwybod dy statws?

A hithau'n bennod olaf y gyfres yma o'r podlediad, roedden ni eisiau trafod pwnc ychydig bach fwy arwyddocaol, sef HIV/AIDS. Mae'n afiechyd sydd dal i effeithio nifer o bobl yma yng Nghymru, ac yn ôl ein gwestai ni heddiw sef Uwch Gynghorydd polisi grwp trawsbleidiol HIV/AIDS San Steffan, Mark Lewis, mae yna lot o waith i'w wneud eto i addysgu pobl am yr afiechyd er mwyn rhwystro trosglwyddiadau newydd o'r firws.

Os hoffech gymorth neu fwy o wybodaeth am HIV/AIDS yna ewch i wefan y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol, y Terrence Higgins Trust neu cysylltwch â'ch meddyg teulu.

Diolch o galon am wrando ar y gyfres,

Iestyn a Meilir :)

Show more...
4 years ago
47 minutes

Esgusodwch fi?
Ti'n un o'r pump?

Pleser sgwrsio efo dau o gyd-awduron y gyfres lenyddol newydd 'Y Pump' yn y bennod yma, sef Leo Drayton a Maisie Awen. Da ni'n sôn am yr Emmy's, yr ysgol ac yn hel atgofion am ein harddegau. Heb sôn am ysbrydoliaeth ein arwyddgan catchy!

Am be da chi'n aros? Pwyswch 'play' ac awê.

Iestyn a Meilir :)

Show more...
4 years ago
35 minutes

Esgusodwch fi?
Ydy hi'n gaddo camp heddiw?

O ystyried fod y fabulous Owain Wyn Evans yn ymuno hefo ni'r wythnos yma, mae'r rhagolygon yn darogan y bydd hon yn bennod fendigedig! Da ni'n trafod drymio, reidio motorbeics, bod yn camp a llawer mwy...

Rhowch eich eli haul ymlaen a pwyswch 'play'.

Iestyn a Meilir :)

Show more...
4 years ago
35 minutes

Esgusodwch fi?
Pa 'tribe' wyt ti?

Twink, bear 'ta geek? Pa 'tribe' wyt ti? Be ydi 'tribe' hyd yn oed? Wel, mi fyddwn ni'n trafod hyn i gyd a mwy efo'r actor Iestyn Arwel yn y bennod yma.

Gan ein bod yn trafod themau aeddfed gydag ambell i ddefnydd o iaith gref, nid yw'r bennod yma yn addas i blant.

Mwynhewch!

Iestyn a Meilir :)

Show more...
4 years ago
40 minutes

Esgusodwch fi?
Gwin coch, gwyn 'ta rosé?

Yr hyfryd Jalisa Andrews sy'n cadw cwmni i ni yr wythnos yma. Da ni'n cael y cyfle i'w holi am ei magwraeth, ei phlentyndod a'i hunaniaeth deurywiol. Oes yna ragdybiaethau am ddeurywioldeb? Ydyn ni'n euog o anghofio am y 'D' yn LHDTC+?

Gwrandewch, myfyriwch a mwynhewch!

Iestyn a Meilir :)

Show more...
4 years ago
42 minutes

Esgusodwch fi?
Lle ma’ Maggi?

O drag i fywyd i ddynion i’r Eisteddfod Genedlaethol. Dyma rai o destunau sgwrs y bennod yma efo’r amryddawn Kristoffer Hughes, sef y person tu ôl i’r frenhines drag ‘da ni i gyd yn ei hadnabod bellach - Maggi Noggi!

Rargian, mi chwerthon ni tra’n siarad efo Kristoffer a da ni’n gobeithio y gwnewch chithau wrth wrando hefyd.

Iestyn a Meilir :)

RHYBUDD: Mae yna iaith gref a themau anaddas i blant yn y bennod yma!

Show more...
4 years ago
40 minutes

Esgusodwch fi?
‘Da chi’n efeilliaid?

Yn y bennod yma, mi fydd Iestyn yn cael ei gyfweld ar y cyd â’i efaill, Gethin Walker-Lewis. Byddwn yn cael sgyrsiau reit amrwd am deulu, ‘dod allan’ a sut brofiad ydi o i gael brawd sydd hefyd yn hoyw.

Mi fyddwn ni hefyd, fel yr arfer, yn trafod newyddion LHDT+ yma yng Nghymru a thu hwnt.

Meilir a Iestyn :)

Show more...
4 years ago
42 minutes

Esgusodwch fi?
Faint o ddilynwyr sgen ti?

Ma’r TikToker o fri, Ellis Lloyd Jones yn ymuno efo ni yn y bennod yma, i sgwrsio am ei gymeriadau lliwgar, perchnogi pob agwedd o’i hun ac am dynnu selfies yn Bangor.

Mwynhewch!

Iestyn a Meilir :)

Show more...
4 years ago
37 minutes

Esgusodwch fi?

Trafodaethau bywiog am yr hyn mae’n ei olygu i fod yn aelod o gymuned LHDTC+ yng Nghymru, yng nghwmni Iestyn Wyn a Meilir Rhys Williams. Iestyn Wyn & Meilir Rhys Williams celebrate the LGBTQ+ community in Wales.