Casgliad o bodlediadau ar gyfer pobol sy’n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd. Sgyrsiau diddorol o bob math fydd yn gymorth ac yn gwmni i chi ar eich taith fel siaradwr Cymraeg newydd. A collection of podcasts for Welsh learners.

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd.
Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gydag Israel Lai, sydd wedi ei eni a'i fagu yn Hong Kong ac wedi bod yn dysgu Cymraeg ers dwy flynedd. Cerddor a chyfansoddwr ydy Israel sydd yn byw erbyn hyn ym Manceinion. Cantoneg ydy ei famiaith ac mae yn gallu siarad 20 o ieithoedd eraill sydd yn cynnwys y Gymraeg!