
Mae gemau ar-lein yn fwy poblogaidd nag erioed. Yn ôl Ofcom roedd tua saith o bob deg o blant 5-15 oed yn chwarae gemau ar-lein yn 2020.
Mae llawer o arbenigwyr yn cytuno y gall chwarae gemau ar-lein gynnig manteision corfforol a chymdeithasol i blant a phobl ifanc. Mae'r rhain yn cynnwys sgiliau meddwl yn strategol, creadigrwydd a sgiliau datrys problemau - ond fel gyda sawl agwedd ar eu bywydau digidol, fe all fod yna anfanteision hefyd. Mae gwario arian wrth chwarae gemau yn faes sy'n peri pryder cynyddol, yn enwedig gemau sydd wedi'u hanelu'n benodol at blant a phobl ifanc.