
Mae'r cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau newyddion a digidol wedi rhoi mynediad rhwydd i ni at wybodaeth a chysylltiad ar unwaith â'r byd. Fodd bynnag, maen nhw hefyd wedi darparu gofod heb ei reoleiddio lle gall gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol ledaenu'n gyflym ac achosi niwed mawr. Mae'r wybodaeth hon yn cael ei galw'n Gamwybodaeth.
Gyda bron i hanner y bobl yng Nghymru bellach yn dibynnu ar y cyfryngau cymdeithasol am eu newyddion, mae'n bwysig bod yn ymwybodol bod llawer o wybodaeth anghywir ar-lein sy'n esgus bod yn wybodaeth gywir. Felly y tro nesaf y gwelwch chi stori newyddion, delwedd neu femyn ar-lein, cofio i stopiwch, meddyliwch a gwiriwch.
Am fwy o wybodaeth ac adnoddau defnyddiol cliciwch ar y ddolen - https://hwb.gov.wales/parthau/cadwn-ddiogel-ar-lein/atal-camwybodaeth-rhag-lledaenu/