
Mae llawer ohonom yn croesawu poblogrwydd cynyddol y cyfryngau cymdeithasol ac mae'n gyfle inni gadw mewn cysylltiad yn fwy nag erioed o'r blaen. Mae dros 100 miliwn o luniau'n cael eu rhannu ar Instagram bob dydd, ond o ystyried pa mor hawdd yw golygu lluniau, weithiau gallwn deimlo dan bwysau i greu'r argraff orau o'n bywydau ar-lein.
Efallai y bydd y cyfryngau cymdeithasol yn rhoi'r argraff bod bywyd yn berffaith i rai, ond cofiwch mai dim ond yr uchafbwyntiau welwch chi, nid y darlun cyflawn. Dyw bywyd go iawn ddim yn fêl i gyd.
Peidiwch â gadael i'r hidlydd eich twyllo. Byddwch yn driw i chi'ch hun ar-lein.
Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth am y pwnc hwn drwy ymweld ar dudalen Byddwch yn driw i chi'ch hun ar-lein ar Hwb - https://hwb.gov.wales/parthau/cadwn-ddiogel-ar-lein/news/articles/a11d653e-b5f2-4dd8-b25f-8b52096f25a7