
Rhybudd Cynnwys:
Mae’r pennod podlediad hon yn cynnwys pynciau a allai beri gofid i wrandawyr. Os oes unrhyw beth a drafodwn yn effeithio arnoch chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, ewch i wefan y Samariaid www.samaritans.org neu ffoniwch 116 123 am gymorth am ddim 24/7.
Content Warning: This podcast episode contains topics that may be upsetting to listeners. If anything we discuss affects you, or someone you know, please visit the Samaritans at www.samaritans.org or call 116 123 for free support 24/7.
--
Disgrifiad:
Caiff Dydd Llun Llwm ei ddisgrifio yn aml fel diwrnod tristaf y flwyddyn, ond mae hefyd yn gyfle i dynnu sylw at iechyd meddwl. Yn y bennod arbennig hon o Just the Ticket, Jest y Tocyn, rydym yn trafod pwysigrwydd lles meddyliol gyda dau westai ysbrydoledig o'r diwydiant rheilffyrdd: Nick Millington, Cyfarwyddwr Llwybrau Network Rail, a Paul Stanford, Rheolwr Cyffredinol Head-Shunt, elusen iechyd meddwl sy'n cefnogi gweithwyr y rheilffyrdd.
Rydym yn trafod taith bersonol Paul gyda heriau iechyd meddwl yn ystod ei yrfa yn y diwydiant rheilffyrdd, rôl hanfodol elusennau fel Head-Shunt a’r Samariaid, a sut mae sefydliadau fel Trafnidiaeth Cymru a Network Rail yn camu i’r adwy ac yn cynnig cymorth iechyd meddwl i weithwyr. Byddwch hefyd yn clywed cyngor ymarferol ac yn cael gwybod am adnoddau i'ch helpu chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod i reoli heriau iechyd meddwl, waeth pa ddiwydiant rydych chi ynddo.
Dysgwch fwy am y Head-Shunt:
Mae Head-Shunt yn elusen iechyd meddwl sy'n ymroddedig i gynnig cymorth i weithwyr rheilffyrdd ar draws y diwydiant. Ewch i'w gwefan, sef www.head-shunt.com i ddysgu mwy am ei hymgyrch a'r gefnogaeth y maent yn ei darparu.
Gadewch i ni newid y naratif o ran iechyd meddwl - oherwydd mae'n iawn peidio â bod yn iawn. Gwrandewch ar y bennod hon nawr ar eich hoff blatfform podlediadau ac ymunwch â ni i chwalu’r stigma ynghylch iechyd meddwl.
---
Description:
Blue Monday is often described as the saddest day of the year, but it’s also an opportunity to shine a spotlight on mental health. In this one-off special episode of Just the Ticket, Jest y Tocyn, we explore the importance of mental
well-being with two inspiring guests from the rail industry: Nick Millington, Route Director for Network Rail, and Paul Stanford, General Manager of Head-Shunt, a mental health charity supporting rail workers.
We discuss Paul’s personal journey with mental health challenges during his career in the rail industry, the vital role of charities like Head-Shunt and Samaritans, and how organisations such as Transport for Wales and Network Rail are stepping up to support employees’ mental health. You’ll also hear practical advice and discover resources to help you or someone you know manage mental health challenges, no matter what industry you’re in.
Learn More About Head-Shunt:
Head-Shunt is a mental health charity dedicated to supporting rail workers across the industry. Visit their website at www.head-shunt.com to learn more about their mission and the support they provide.
Let’s change the narrative around mental health - because it’s okay not to be okay. Listen now on your favourite podcast platform and join us in breaking the stigma around mental health.