Podlediad sy’n dathlu llwyddiant graddedigion Prifysgol Bangor. Bydd y gyfres yn cynnwys sgyrsiau difyr gyda chyn-fyfyrwyr am eu profiad o astudio drwy’r Gymraeg, eu llwybr gyrfa ac ym mha ffyrdd y mae’r Gymraeg wedi agor drysau iddyn nhw yn eu gyrfaoedd proffesiynol.
Bydd y penodau yn cwmpasu meysydd amrywiol, nid dim ond un maes astudio - felly rhywbeth at ddant pawb! Y thema a fydd yn uno’r cyfan ydy’r cyswllt rhwng y Gymraeg a chyflogadwyedd, ac yn benodol y profiadau ‘byd go-iawn’ sydd yn rhan o hynny. Gobeithio bydd clywed straeon diddorol ein graddedigion yn eich ysbrydoli!
Diolch i Gronfa Bangor am ariannu'r podlediad a diolch i gwmni Y Pod am gynhyrchu.
All content for Bangor Be Wedyn? is the property of Bangor Cymraeg and is served directly from their servers
with no modification, redirects, or rehosting. The podcast is not affiliated with or endorsed by Podjoint in any way.
Podlediad sy’n dathlu llwyddiant graddedigion Prifysgol Bangor. Bydd y gyfres yn cynnwys sgyrsiau difyr gyda chyn-fyfyrwyr am eu profiad o astudio drwy’r Gymraeg, eu llwybr gyrfa ac ym mha ffyrdd y mae’r Gymraeg wedi agor drysau iddyn nhw yn eu gyrfaoedd proffesiynol.
Bydd y penodau yn cwmpasu meysydd amrywiol, nid dim ond un maes astudio - felly rhywbeth at ddant pawb! Y thema a fydd yn uno’r cyfan ydy’r cyswllt rhwng y Gymraeg a chyflogadwyedd, ac yn benodol y profiadau ‘byd go-iawn’ sydd yn rhan o hynny. Gobeithio bydd clywed straeon diddorol ein graddedigion yn eich ysbrydoli!
Diolch i Gronfa Bangor am ariannu'r podlediad a diolch i gwmni Y Pod am gynhyrchu.
"Oedd astudio drwy'r Gymraeg yn benderfyniad naturiol i fi wneud."
Croeso i bennod arall o Bangor Be Wedyn, lle mi ydw i Huw Gwynn yn sgwrsio hefo graddedigion Prifysgol Bangor am eu gyrfa nhw ers graddio a sut mae'r Gymraeg wedi eu helpu nhw ar hyd y ffordd.
Dyma bennod ychwanegol arbennig gyda'r chwaraewr rygbi Teleri Davies! Mae stori Teleri yn un ofnadwy o ddiddorol. Mi astudiodd hi'r gyfraith ym Mhrifysgol Bangor cyn cymhwyso fel cyfreithwraig. Mae hi hefyd wedi chwarae rygbi dros ei gwlad a mae hi bellach yn gweithio fel athrawes ac yn chwarae rygbi yn Tseina.
Oherwydd y logistics, yn anffodus doedd hi ddim yn bosib recordio gyda Teleri yn fyw , ond mae hi yn garedig iawn wedi rhannu ei stori gyda ni. Mae hi'n sôn ychydig am ei hamser yn y brifysgol, pam dewis astudio'r gyfraith ym Mangor a pham dewis astudio drwy'r Gymraeg. Mae hi hefyd yn sôn am ba mor ddefnyddiol ydy bod yn ddwyieithog yn y byd cyfreithiol, cyn symud ymlaen i siarad am ei phrofiad o fyw yn Tseina a sut gafodd hi'r cyfle i fynd i chwarae rygbi ochr arall y byd.
Mwynha'r bennod ychwanegol yma!
Bangor Be Wedyn?